Mae nifer wedi beirniadu'r cerrig
|
Mae swyddogion yr eisteddfod yn dweud eu bod nhw'n ystyried cynnig i gael cerrig go iawn yn ôl yn rhan o'r Orsedd.
Eleni am y tro cynta mae cerrig gwydr ffeibr yn cael ei defnyddio fel meini.
Ond dydi pawb ddim yn hapus gyda'r cerrig.
Mae un o Aelodau Ceidwadol y Cynulliad, Brynley Williams, yn feirniadol iawn.
Ers iddo feirniadu'r meini ffug mae Mr Williams yn dweud bod perchennog chwarel wedi cysylltu ag o'n cynnig cerrig go iawn.
Fe fydd swyddogion yr Eisteddfod yn cynnal cyfarfod gyda Mr Williams i drafod y mater yn fuan.
"Am saith o'r gloch y bore roeddwn i'n cwyno am y cerrig plastig ma," meddai.
"O fewn hanner awr ges i alwad ffôn gan un o'r chwareli yn agos aton ni yng ngogledd Cymru.
"Roedd yn dweud bod y prif weithredwr wedi bod ar y ffon ac yn fodlon helpu i drio gwneud rhywbeth am y cerrig yma."
Symud yn hawdd
Ar faes y Faenol y mae'r Eisteddfodwyr wedi cael gweld y cerrig "plastig" ac mae'r croeso yn un cymysg iawn.
Cafodd y cerrig eu creu er mwyn ceisio arbed arian i'r Eisteddfod ac er mwyn cael y seremoniau ar y prif faes.
Dywedodd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, bod hwn yn gynnig diddordol.
"Dwi'n siwr y cawn sgwrs efo Brynle Williams i weld lle allwn ni fynd," meddai.
"Mae'n gynnig diddorol.
"Mantais fawr y cerrig artiffisial ydi eu bod yn gallu cael eu symud, a'u symud yn rhwydd.
"Fydd rhain ddim yn creu problem i dirfeddianwyr, gan mai ychydig i dirfeddianwyr sy'n fodlon i ni roi cerrig parhaol ar eu safle.
"Ond mae'r rhai plastig yn ein galluogi ni i wneud hynny."