Syr Kyffin: Gwaith arddangosfa yn 'ofnadwy'
|
Beirniadodd artist amlwg safon y gwaith celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd Syr Kyffin Williams, sy'n cael triniaeth ar gyfer cansyr, nad oedd cysylltiad rhwng y gwaith sy'n cael ei arddangos yn y Faenol a chelf gain.
Byddai "Cymry cadarn" yn ymweld â'r Brifwyl yn troi eu cefnau ar yr hyn oedd yno, meddai.
Ond mae'r Eisteddfod a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi amddiffyn yr arddangosfa.
Mae Syr Kyffin, 87 oed, sy'n ymladd yn erbyn cansyr yr ysgyfaint a'r brostad, wedi ailgydio yn ei grefft yn ei gartref ar Ynys Môn yn ddiweddar.
Dywedodd fod y driniaeth "yn mynd yn dda".
Nid yw wedi bod yn yr Eisteddfod eto ond dywedodd fod yr hyn a welodd ar y teledu yn "hollol ofnadwy".
 |
Mae'r gwaith celf newydd yn rhywbeth y gall unrhywun ei wneud, fel chwarae golff ...
|
"Does dim unrhyw gelf fain, yr hyn sydd wedi ei wneud drwy'r canrifoedd gan artistiaid a cherflunwyr," meddai.
Patagonia
"Mae'r gwaith celf newydd yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud, fel chwarae golff neu bysgota ....
"Nid yw'n golygu dim ac fe all unrhyw un ei wneud," meddai'r artist sydd wedi beirniadu celf fodern sawl gwaith yn y gorffennol.
"Nid bai yr eisteddfod yw hyn - bai Cyngor y Celfyddydau sy'n noddi'r gwaith celf yno.
"Maen nhw am ddinistrio celf - mae'n rwtsh llwyr a deud a gwir."
Dywedodd Syr Kyffin iddo geisio perswadio'r cyngor celfyddydau "i fod yn synhwyrol" ers blynyddoedd.
Un o luniau Syr Kyffin Williams o Swnt Dewi
|
Dywedodd Geraint Talfan Davies, cadeirydd Cyngor y Celfyddydau, sy'n noddi'r Arddangosfa Gelf yn yr Eisteddfod, fod ganddyn nhw barch at Syr Kyffin fel artist a bod ganddo hawl i'w farn.
"Ond rydym yn cydnabod fod ganddo broblem gyda chelf gyfoes," meddai.
Dywedodd Robyn Tomos, swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, ei fod yn "cytuno i anghytuno" â Syr Kyffin.
"Rwy'n falch iawn o'r arddangosfa yn y pafiliwn eleni.
"Mae gennym gynrychiolaeth nifer o bobl ifanc, artistiaid y dyfodol."
Mae tirluniau Syr Kyffin o Eryri a Phatagonia yn cael eu cydnabod drwy'r byd.
Bydd dau o'i luniau wedi iddo fod ym Mhatagonia yn y 1960au yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn yn yr Eisteddfod ddydd Gwener i godi arian i ysgol yn y Wladfa.