Yr Athro Williams: 'Hawl i arfer yr iaith yn y gwaith'
|
Mae aelod amlwg o Fwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dweud fod angen cyfres o ddeddfau i greu Cymru ddwyieithog.
Dywedodd yr Athro Colin Williams mewn darlith ar Faes y Brifwyl mai'r cynulliad nid San Steffan ddylai gael pwerau i ddeddfu ac y dylai hawliau ieithyddol fod yn rhan o Siarter Iaith.
Mae'r arbenigwr cynllunio ieithyddol yn credu fod angen i'r Gymraeg fod yn gwbl gyfartal â'r Saesneg.
Nid barn swyddogol y bwrdd yw hon ond mae sylwebwyr yn dweud fod sylwadau athro ymchwil Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn arwyddocaol.
Esboniodd yr Athro Williams yr hyn oedd angen ei newid os oedd amcanion Llywodraeth y Cynulliad o greu Cymru ddwyieithog i gael eu gwireddu.
'Cyfle delfrydol'
Nid yn unig y dylai'r cynulliad gael pwerau ychwanegol, meddai, ond dylai eu defnyddio i gyflwyno cyfres o ddeddfau i amddiffyn yr iaith.
Dywedodd y gallai'r Papur Gwyn ar Ddatganoli fod yn "gyfle delfrydol" i symud y dasg o wneud penderfyniadau o San Steffan.
"O dan y Papur Gwyn ar drefn llywodraeth well i Gymru mae'n bosib i'r cynulliad ofyn am hawl mewn rhai meysydd penodol, gan gynnwys iaith ac addysg statudol.
"Pe bai'r cynulliad yn derbyn cyfrifoldeb gan San Steffan am y fath bolisïau, byddai'n bwer ynddo'i hun...a byddai'r cynulliad yn rhywfath o Senedd anffurfiol.
"Mae Peter Hain wedi bod yn gyfrwys iawn i gynnig y fath bosibilrwydd. Felly mae eisiau cymryd pob cyfle a dyna yw'r realiti newydd - yn hytrach na gofyn am un ddeddf iaith newydd dwi'n gofyn am nifer o ddeddfwriaethau newydd."
Dylid cyflwyno statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg, meddai, mwy o bwerau i gryfhau deddfau sy'n bodoli eisoes a chomisiynydd annibynnol i'r iaith Gymraeg.
Bwrdd yr Iaith sy'n delio â chynlluniau iaith a phan y bydd yn cael ei ddileu gallai arwain at wagle statudol, meddai.
'Annibynnol'
"Felly os ydyn ni'n gofyn am fwy o hawliau ac os oes cymhlethdod ynlgŷn â chynlluniau iaith yn datblygu, mae eisiau Comisiynydd y Gymraeg i archwilio, hybu a bod yn annibynnol ar y llywodraeth wrth drin polisi iaith a'u gweithrediad," meddai.
"Felly mae eisiau swyddfa annibynnol, comisiynydd fel yn Iwerddon, i edrych ar yr hyn fyddai o ddiddordeb i ni fel siaradwyr Cymraeg."
Yn ei araith dywedodd y dylid cyflwyno datganiad gwleidyddol o hawliau mewn Siarter Iaith.
Bu ymgyrchwyr deddf iaith yn ceisio amharu ar ymweliad Prif Weinidog Cymru â Maes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth.
Ni fyddai Rhodri Morgan yn ymateb i "lond dwrn o fwlis," meddai'r llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad.
"Rydym yn hapus i drafod yr iaith Gymraeg ac yn teimlo fod ein record o ran hybu'r iaith yn dda," meddai.