Meirion Prys Jones, Jean-Pierre Thomin ac Iwan Kadored o'r Ofis ar Brezhoneg yn y lansiad
|
Mae polisi iaith Cyngor Rhanbarthol Llydaw wedi ei lansio ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cafodd ei lansio yn stondin Bwrdd yr Iaith ar y Maes ddydd Mercher er mwyn cyfleu'r cyswllt ieithyddol rhwng Cymru a Llydaw.
Cyngor Rhanbarthol Llydaw sydd wedi cyhoeddi'r polisi ac mae'n cydnabod yn ffurfiol fodolaeth y Llydaweg ochr yn ochr â'r Ffrangeg.
Roedd cynrychiolwyr o'r cyngor a'r Ofis ar Brezhoneg (Bwrdd yr Iaith Llydaw) yn bresennol yn lansiad.
Wrth lansio'r polisi dywedodd Jean-Pierre Thomin o'r cyngor rhanbarthol eu bod wedi ceisio manteisio ar brofiadau Bwrdd yr Iaith a'r Gymraeg a'u bod wedi eu "hysbrydoli gan bolisi iaith cynulliad Cymru".
Dywedodd fod tua 30,000 yn siarad Llydaweg yn Llydaw a 60% yn hŷn na 60 oed a bod "y sefyllfa yn wael."
Mae 10,000 o siaradwyr yn diflannu bob blwyddyn a 10,000 yn dysgu'r iaith yn yr ysgolion, meddai.
'Cam hanesyddol'
"Nid yw'n cael ei drosglwyddo mewn teuluoedd a dyw llawer ddim yn ei glywed ar radio a theledu."
"Ond gobeithio y bydd y dyfodol yn well gan fod llawer o bethau'n digwydd yn ddiwylliannol," meddai.
Dywedodd mai dim ond 10,000 o blant yn gallu siarad Llydaweg yn yr ysgolion ond bod y nifer yn tyfu rhwng 10-15% bob blwyddyn a'i fod 10 gwaith yn fwy heddiw na 10 mlynedd yn ôl.
Dywedodd fod derbyn y polisi iaith, sy'n rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith gan y cyngor yn "gam mawr hanesyddol ymlaen".
Aneirin Karadog: Yn rapio yn y Llydaweg a'r Gymraeg
|
Yr amcanion, meddai, yw cadw nifer y siaradwyr a chadw'r iaith yn fyw a rhoi cyfle i bawb yn Llydaw i ddefnyddio'r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Y gobaith yw rhoi cyfle i'r iaith gael ei defnyddio ym mhob maes o fywyd a'r gymuned a hefyd ceisio codi'r nifer o blant sy'n dysgu'r iaith yn yr ysgolion o 10,000 i 20,000 erbyn 2010.
Er mwyn gwireddu hynny,meddai, mae'r cyngor wedi dechrau rhoi cymorth i gymdeithasau redeg dosbarthiadau Llydaweg, rhoi cymorth i hyfforddi athrawon i ddysgu'r iaith a hefyd hyrwyddo'r iaith yn yr ysgolion.
Dywedodd fod y cyngor yn gobeithio y bydd yr Ofis ar Brezhoneg yn dod yn gorff cyhoeddus ac y byddai'r cyngor yn cydweithio â'r siroedd yn Llydaw i sicrhau hyn.
"Gyda'r ddogfen bolisi ceisiwyd mynd cyn belled â phosib o gofio beth yw meddyliau'r bobl yn Llydaw a'r awdurdodau," meddai.
Yn ystod y lansiad dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, ei fod yn "llongyfarch y cyngor ar ei gweledigaeth."
Plant a phobl ifanc
Dywedodd fod Cymru a Llydaw yn cynorthwyo'i gilydd gan "ein bod ni'n perthyn, dydyn ni ddim yn bell yn ddaearyddol ac rydyn ni'n gallu rhannu profiadau."
Mae'r sefyllfa yn Llydaw, meddai, yn llawer mwy bregus gan eu bod yn colli siaradwyr yn flynyddol.
"Rydyn ni wedi cynnig egwyddorion ynglŷn â sut mae cynllunio a beth sydd angen canolbwyntio arno gyntaf," meddai.
"Yn sylfaenol mae angen dechrau gyda phlant a phobl ifanc fel yr ydyn ni'n ei wneud gyda phrosiect tŵf, perswadio rhieni ac adeiladu ar y strwythur addysgol."
Ar ddiwedd y lansiad fe fu Aneirin Karadog yn rapio yn y Llydaweg a'r Gymraeg.
Mae'n fab i Lydawes ond magwyd ef yng Nghymru a soniodd am y profiad o gael ei fagu'n perthyn i ddau ddiwylliant.