Mae Dylan Iorwerth yn llenor hyderus ei gyfrwng, medd y beirniaid
|
Y newyddiadurwr Dylan Iorwerth, o Lannwnen, Llanbedr Pont Steffan, sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau.
Enillodd Mr Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Goron Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a'r Cylch 2000.
Eleni gofynnwyd am amrywiaeth o ddarnau rhyddiaith yn darlunio cyfnod heb fod dros 40,000 o eiriau.
Roedd 20 wedi cystadlu a'r beirniaid oedd Catrin Stevens, Geraint Vaughan Jones a Meinir Pierce Jones.
Obsesiynau
Wrth greu'r gwaith ceisiodd yr awdur "ddal rhywfaint o ysbryd rhyfedd y cyfnod yr ydym yn byw ynddo ynghyd â rhai o obsesiynau pobl heddiw".
Ei ffugenw yn y gystadleuaeth oedd Sam, yr enw a roddwyd ar filgi ddaeth i'r tŷ oedd wedi ei daflu o'r neilltu gan hyfforddwr rasio ddiwrnod neu ddau cyn dyddiad cau y gystadleuaeth.
Dywedodd Catrin Stevens a draddododd y feirniadaeth fod gwaith Mr Iorwerth "yn ben ac ysgwydd diogel uwchben ei gyd-gystadleuwyr" a'i fod yn "llenor hyderus ei gyfrwng...yn aeddfed ei neges a chyson ei safon uchel".
Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg
|
Yn ogystal â'r fedal mae Mr Iorwerth yn derbyn £750 yn rhodd gan Ymddiriedolaeth Dr D Tecwyn Lloyd.
Dechreuodd newyddiadura gyda'r Wrexham Leader cyn ymuno â'r BBC fel gohebydd gwleidyddol i Radio Cymru ac S4C yn y Senedd o 1983 tan 1986.
Yn 1982 roedd yn un o sylfaenwyr y papur Sul, Sulyn, ac yn 1988 helpodd sefydlu cwmni Golwg sy'n cynhyrchu pedwar cylchgrawn, Golwg, Lingo Newydd, Wcw a'i Ffrindiau a V.
Erbyn hyn fe yw Golygydd Gyfarwyddwr y cwmni sydd â swyddfeydd yn Llanbed a Chaernarfon.
Mae'n enedigol o Ddolgellau ond symudodd i Waunfawr ger Caernarfon lle bu yn yr ysgol gynradd.
Aeth i Ysgol Syr Hugh Owen Caernarfon cyn Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth lle astudiodd Hanes a Saesneg.
Mae'n briod ag Elaine ac mae ganddyn nhw ferch 14 oed, Luned.