Dafydd Wigley a Dr Robyn Lewis: Safbwyntiau gwahanol ar ddewis Lerpwl
|
Mae'r cyn Archdderwydd Dr Robyn Lewis a Chadeirydd Cymdeithas Cymry Lerpwl, Roderick Owen, wedi cerdded o'r Pafiliwn yn ystod araith Dafydd Wigley fel Llywydd y Dydd ddydd Mercher.
Cerddodd y ddau drwy'r gynulleidfa yn y Pafiliwn pan oedd Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn datgan ei gefnogaeth i'r posibilrwydd o fynd â'r Brifwyl i Lerpwl yn 2007.
Dywedodd Dr Lewis mai protest oedd hyn er mwyn mynegi nad yw am i'r Eisteddfod fynd i Lerpwl "ar unrhyw achlysur" ac na ddylai Mr Wigley fod wedi codi "pwnc cynhennus" yn ei araith.
 |
Mater o egwyddor yw hyn ac Eisteddfod Cymru yw hi
|
Wrth ymateb dywedodd Mr Wigley y bydd y pwnc yn codi ddydd Gwener yng nghyfarfod Lys yr Eisteddfod a'i bod yn "bwysig i beidio gadael i'r dadleuon fynd heb eu datgan".
Wrth egluro pam y penderfynodd gerdded o'r Pafiliwn dywedodd Dr Lewis: "Roedd gan Lywydd y Dydd gynulleidfa glwm ac roedd yn gallu dweud beth a fynnai.
"Fe wnaethon ni godi mewn protest am ei fod wedi codi pwynt cynhennus," meddai.
"Mae dwy farn gref ar y mater ac mae gan Mr Wigley yr hawl i'w farn ond dwi ddim yn credu y dylai fod wedi ei datgan fel Llywydd y Dydd."
'Prinder Cymry'
Dywedodd Dr Lewis y byddai'n well ganddo pe na bai Eisteddfod yn cael ei chynnal o gwbwl yn 2007 na'i bod yn mynd i Lerpwl.
"O ganlyniad glwy'r traed a'r genau cafwyd Eisteddfod yr Urdd ar y teledu ac fe beidiodd Eisteddfodau yn ystod yr Ail Ryfel Byd," meddai.
Protest yn y Pafiliwn: Dr Robyn Lewis a Roderick Owen
|
"Mater o egwyddor yw hyn ac Eisteddfod Cymru yw hi.
"Does dim digon o Gymry yn Lerpwl i'w chynnal. Yn 1929 y cafodd yr Eisteddfod ei chynnal yno ddiwethaf a'r adeg honno roedd 60 o gapeli Cymraeg yn Lerpwl, heddiw dim ond chwech sydd ac mae'r aelodaeth yn isel ac yn mynd yn hŷn."
Wrth ymateb i ddadl Dr Lewis na ddylid bod wedi codi'r pwnc fel Llywydd y Dydd dywedodd Mr Wigley y byddai'r pwnc yn codi ddydd Gwener yng nghyfarfod y llys "ac mae'n bwysig i beidio gadael i'r dadleuon fynd heb eu datgan.
"Mae'n annheg ar y swyddogion nad ydyn nhw'n gwybod a fydd cyflog iddyn nhw ac a fyddan nhw allan o waith wedi Eisteddfod Abertawe," meddai.
Dywedodd y byddai peidio â chynnal Eisteddfod yn 2007 yn "ergyd farwol" gan na fyddai modd cynnal y swyddfa ganolog a bod peryg colli nawdd a stondinwyr.
'Amgylchiadau unigryw'
"Dwi yn credu mewn gweld parhad yr Eisteddfod a dwi eisiau gweld amodau y bydd yn parhau ar dir Cymru yn 2008 ond mae'n rhaid pontio 2007.
"Mae amgylchiadau unigryw gan fod Lerpwl yn Ddinas Diwylliant Ewrop ac mae Cymru yn rhan o ddiwylliant Ewrop," meddai.
 |
Mae'n bwysig i beidio gadael i'r dadleuon fynd heb eu datgan.
|
Ond pwysleisiodd nad oes ganddo amheuaeth mai "ar dir Cymru y dylai'r Eisteddfod fod bob tro" oni bai fod dewis o beidio â'i chynnal o gwbl.
Wrth ymateb i'r hyn ddigwyddodd yn y Pafiliwn dywedodd Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Dafydd Whittall, mai "mater unigol iddyn nhw (Dr Lewis a Mr Owen) yw gwneud y math yma o beth ac mae'n arwyddocaol iawn fod yr holl sylw ar Lywydd y Dydd ac nid ar brotest o'r math yma.
"Mae'n biti na wnaeth y ddau ddim aros tan y diwedd i glywed y rhesymeg y tu ôl i'r ddadl a'r gymeradwyaeth a roddwyd oedd yn dangos y parch at ddewrder wrth wynebu realiti sefyllfaoedd.
"Mae'n ymddangos i mi ei fod yn brotest aneffeithiol gan fod y sylw'n parhau ar Lywydd y Dydd," meddai.