Lerpwl: Unig ddewis Eisteddfod 2007?
|
Mae'n dod yn fwy ac yn fwy tebygol y gall Eisteddfod 2007 fynd i Lerpwl.
Yn gynharach ddydd Mercher dywedodd Dafydd Wigley, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau, y byddai cynnal Eisteddfod yn Lerpwl yn well dewis na pheidio cynnal Steddfod o gwbl.
Cefnogwyd ei sylwadau gan Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau, Richard Morris Jones, a ddywedodd mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher fod yn "rhaid ystyried y realiti".
Yn y gynhadledd roedd yn ymddangos fod Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod hefyd yn tueddu tuag at feddwl y byddai'n rhaid derbyn y dewis o fynd i Lerpwl pe na ellid cynnal yr Eisteddfod yn unman yng Nghymru.
'Ergyd'
Ond gwnaeth y tri hi'n berffaith glir mai'r dewis cyntaf fyddai cynnal y Brifwyl yng Nghymru ac yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Dim ond pe na byddai hynny'n bosib y bydden nhw am fynd i Lerpwl.
Richard Morris Jones: Yn 'cytuno'n llwyr' â Dafydd Wigley
|
Y sbardun i ail drafod y 'dewis Lerpwl' oedd sylwadau gan Mr Wigley a gadarnhawyd ganddo yn y gynhadledd i'r wasg.
Dywedodd y byddai peidio cynnal Eisteddfod o gwbwl yn "ergyd farwol" i'r Eisteddfod.
"Byddai'n gwbwl anghyfrifol i ystyried peidio â chael Eisteddfod yn 2007," meddai.
"Beth fyddai'n digwydd i'r Swyddfa Ganolog a phatrwm y bobl sy'n dod yma, y noddwyr, teledu a'r stondinau?
"Byddai dim incwm i gynnal y Swyddfa Ganolog a byddai'n anghyfrifol i fynd lawr y llwybr hwnnw.
"Yng Nghaerdydd y flwyddyn wedyn byddai rhaid dechrau o'r dechrau," meddai.
'Ystyried y realiti'
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau, Richard Morris Jones ei fod yn "cytuno'n llwyr" â Mr Wigley.
"Mae angen i bobl sy'n trafod y sefyllfa ystyried realiti," meddai.
"Un o'r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd yw ystyried Lerpwl.
Dafydd Wigley: Byddai dim Eisteddfod yn 2007 yn 'ergyd farwol'
|
"Os oes modd i gael trefniadaeth a fyddai'n caniatáu Eisteddfod yn y Gogledd Ddwyrain yna dyna fyddai fy newis ond mae'r bwriad i daflu cynnig Lerpwl yn fy marn i yn wallgofrwydd llwyr."
Dywedodd Dafydd Whittall, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, y byddai "rhaid wynebu realiti'r sefyllfa" os na byddai modd mynd i Sir y Fflint.
"Mae holl resymeg y peth yn dweud y bydden ni mewn trafferth go iawn," meddai.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, fod Cyngor Dinas Lerpwl wedi rhoi gwahoddiad o ddifri ar gyfer 2007 a'i fod wedi trafod gyda'r prif weithredwr ac un neu ddau o staff.
"Rydyn ni wedi dweud wrth Gyngor Lerpwl be sy'n ddisgwyliedig ac mae maen nhw'n ymwybodol o'r ffeithiau ond heb roi eu hymateb i hynny," meddai.