Bu farw Dr Gwynfor Evans yn 92 oed mis Ebrill
|
Bydd cronfa er cof am y Dr Gwynfor Evans yn cael ei lansio nos Fercher yng Nghaernarfon.
Un o brif amcanion y gronfa yw sefydlu ysgoloriaeth yn enw cyn- lywydd Plaid Cymru ac Aelod Seneddol cyntaf y Blaid.
Bydd arian ar gael i drefnu ysgoloriaeth ym Mhrifysgol Cymru a chofeb barhaol.
Bu farw'r Dr Evans yn 92 oed yn Ebrill eleni.
"Yn ogystal â thalu teyrnged i Gwynfor, bydd heno'n gyfle i ni lansio'r gronfa goffa," meddai Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru.
Carreg goffa
"Un o brif amcanion y gronfa yw sefydlu ysgoloriaeth ond mae nifer o gynlluniau eraill ar y gweill."
Dywedodd mai un cynllun fyddai carreg goffa ar y man y gwasgarwyd llwch y Dr Evans ger Llangadog.
Mae'r cinio yng Ngwesty'r Meifod Hotel, Bontnewydd, a bydd Dyfan Roberts, Sharon Morgan, Heather Jones a Gwenan Gibbard yn talu teyrnged iddo.
Y Dr Evans oedd oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru pan etholwyd ef yn sedd Caerfyrddin ym 1966.
"Unwaith i'r manylion pellach gael eu cytuno â theulu Gwynfor byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach," meddai Mr Iwan.
"Pan fu farw Gwynfor soniais am ei gyfraniad unigryw ac amhrisiadwy wrth ddatblygu Plaid Cymru ...
"Rhaid i ni sicrhau ein bod yn adeiladu ar lwyddiant Plaid Cymru er mwyn creu Cymru deg a chyfiawn."