BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 23 Chwefror 2006, 08:09 GMT
Plaid yn lansio logo sain
Logo Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru yn y broses o ail frandio'i delwedd

Mae Plaid Cymru yn dechrau ar y broses o ail-frandio gan gyflwyno logo newydd bydd modd ei glywed yn unig.

Fe fydd y logo sonig newydd, sydd wedi cael ei greu gan y cyfansoddwr John Rea, yn cael ei ddefnyddio i groesawu ymwelwyr i wefan y blaid.

Yn l y blaid nhw yw'r blaid gyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio'r math yma o logo sy'n cael ei lansio ddydd Gwener yn eu cynhadledd wanwyn yng Nghaerfyrddin.

Mae'r blaid hefyd yn gobeithio y gall y logo gael ei ddefnyddio'n fuan fel tn ar y ffn symudol.

Dywedodd yr AC Helen Mary Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu'r blaid, mai pwrpas y logo newydd yw gwella'r ffordd y mae'r blaid yn cyfathrebu gydag etholwyr a bod ar flaen y gad yng ngwleidyddiaeth Cymru.

"Mae Plaid Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran cyfathrebu," meddai.

"Y Triban (y logo gweledol) oedd y darlun gweledol i unrhyw blaid wleidyddol.

"Fe fydd y logo sonig yn croesawu defnyddwyr i'r wefan ac fe fyddwn yn edrych ar y posibilrwydd o'i ddefnyddio fel tn ar gyfer y ffn.

"Mae'r logo yn rhan allweddol o'r broses o ail-frandio," ychwanegodd.

Y cerddor a'r cyfansoddwr o Gaerdydd, John Rea, sy'n gyfrifol am gyfansoddi'r logo newydd.

Mae Mr Rea wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu ac wedi derbyn comisiwn arbennig i gyfansoddi ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^