Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal y Brifwyl yn Sir y Fflint yn 2007
|
Cafodd cyfarfod anffurfiol ei gynnal ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth i gasglu barn rhai o bobl Sir y Fflint ynglŷn â chynnal Eisteddfod 2007 yn yr ardal.
Fydd yna ddim penderfyniad ynglŷn â lleoliad terfynol Eisteddfod 2007 nes bydd trafodaethau wedi eu cynnal rhwng swyddogion y Brifwyl, cynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Gweinidog Diwylliant y Cynulliad, Alun Pugh.
Bwriad gwreiddiol yr Eisteddfod oedd cynnal y Brifwyl yn Sir y Fflint yn 2007 ond yn gynharach yn y flwyddyn dywedodd y sir nad oedd ganddyn nhw'r £300,000 angenrheidiol i gynnal y Brifwyl.
Dywedodd cyn gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol Dr Aled Lloyd Davies, oedd hefyd yn gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Bro Delyn 1991, ei fod wedi cael cais i ofyn i eisteddfodwyr o'r sir oedd yn yr Eisteddfod i gyfarfod gyda swyddogion i drafod croesawu'r Eisteddfod i'r sir yn 2007.
'Brwdfrydedd'
"Oherwydd y ffaith fod gen i gysylltiadau gyda'r sir mi ges i gais echnos (nos Lun) i weld a oedd yna eisteddfodwyr o'r sir yma i gyfarfod gyda swyddogion i weld beth ydi tymheredd y dŵr o ran croesawu'r Eisteddfod i Sir y Fflint yn 2007," meddai Dr Davies.
"Roedd trigolion Treffynnon wedi eu siomi ond y teimlad oedd mai tro'r sir ddylai fod (yn 2007) ac mae hyn yn dal i fodoli.
"Dim ond wrth ryw dri neu bedwar y gwnes i sôn am y cyfarfod ac fe ledodd y newyddion ac roedd tua 50 yno sy'n dangos ymateb cadarnhaol a brwdfrydedd yn y sir i wahodd yr eisteddfod," meddai.
Dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod yn y Gogledd, mai bwriad gwreiddiol y trefnwyr y Brifwyl oedd mynd i'r sir a'u bod wedi cael cefnogaeth gan y cyngor sir sawl blwyddyn yn ôl.
"Ond erbyn hyn mae hwnnw wedi llithro ond fel Eisteddfod rydym yn awyddus i ymweld â'r Sir neu'r gogledd ddwyrain o ran patrwm symud yr Eisteddfod o le i le," meddai.
"Mae Porthmadog wedi anfon llythyr ond mae'n dod o fewn ardal Cyngor Gwynedd ac mae'n rhan o ddalgylch yr Eisteddfod hon a dwi ddim yn siwr a fyddai cyfeillion Pen Llŷn ac Eifionydd am barhau â'r gwaith gwirfoddol o gasglu arian.
Problem ariannol
Dywedodd fod yr Eisteddfod angen tri pheth o ran lleoliad - maes, cefnogaeth leol a chefnogaeth y cyngor sir.
"Dydi Sir y Fflint ddim yn gallu rhoi'r un math o gefnogaeth ariannol yr ydym yn ei ddisgwyl gan yr awdurdodau lleol ar gyfer 2007 ond mae cefnogaeth ar gyfer yr Eisteddfod yn y sir," meddai.
"Dydi Cyngor Sir y Fflint ddim yn gallu rhoi'r £300,000 ac mae hynny yn broblem ond os ydi'r gefnogaeth yno i wahodd yr Eisteddfod ac y gallwn ddatrys y broblem ariannol, dwi ddim yn poeni am y broblem weinyddol a dwi'n siwr y gallwn drefnu popeth mewn dwy flynedd."