Mae Dafydd Wigley yn awgrymu y dylai dinas Lerwpl gyfrannu at godi cerflun
|
Mae cyn-lywydd Plaid Cymru wedi ymuno yn y ddadl am gynnal y Brifwyl yn Lerpwl yn 2007.
Dydd Mercher bydd Dafydd Wigley, llywydd y dydd yn y Brifwyl, yn dweud y dylai'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn Lerpwl os nad oes dewis arall.
Pe bai'r Eisteddfod ddim yn cael ei chynnal mewn dwy flynedd,byddai'n anodd yn ariannol gynnal y Brifwyl yn 2008, meddai Mr Wigley, cadeirydd pwyllgor cyllid Eisteddfod Eryri eleni.
Ond awgrymodd y dylai dinas Lerpwl gyfrannu at godi cerflun John Meirion Morris ar lan Tryweryn.
Bydd y cerflun,meddai Mr Wigley, yn nodi'r colledion ar ôl boddi Cwm Celyn er mwyn cyflenwi dŵr i bobl Lerpwl.
Anfonodd Cyngor Dinas Lerpwl wahoddiad swyddogol i gynnal yr Eisteddfod yn 2007 yn Rhagfyr.
"Fy marn i ydi ... os oes modd cynnal yr Eisteddfod ar dir Cymru, yna fe ddylid gwneud hynny bob amser," meddai Mr Wigley.
Dim dewis
"Ond os mai'r dewis ydi mynd i Lerpwl neu beidio cynnal gŵyl o gwbl, yna (dylai fynd) i Lerpwl.
"Os oes 'na gais credadwy o Lerpwl, byddem yn hurt bost i beidio ag ystyried derbyn hynny oherwydd yr oblygiadau eraill ....
"Mae'r oblygiadau hynny'n bellgyrhaeddol - lle mae'r arian yn dod i gynnal peirianwaith ariannol a swyddfa ganolog yr eisteddfod.
 |
YMWELIADAU I LOEGR
1866: Caer
1879: Penbedw
1884: Lerpwl
1887: Llundain
1900: Lerpwl
1909: Llundain
1917: Penbedw
1929: Lerpwl
|
"Be' ydi'r dewis os nad oes safle yng Nghymru? A ydan ni'n dweud y byddai'n well peidio cynnal Eisteddfod o gwbl?"
Dywedodd ei fod yn ymwybodol o'r teimladau yng Nghymru tuag at Lerpwl yng nghyd-destun Tryweryn.
"Byddaf yn sôn yn fanwl am hyn yn yr araith ac mae angen i ddinas Lerpwl gydnabod dwyster y teimlad. Ffordd ymarferol ydi i gefnogi'r cerflun gan John Meirion Morris.
"Rhaid peidio anghofio'r gwersi ond mae angen cefnu ar y chwerwder."
Dyfodol
Bydd Llys yr Eisteddfod yn trafod dyfodol y Brifwyl mewn cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Bu'r Eisteddfod deirgwaith yn Lerpwl, ddwywaith ym Mhenbedw ac aeth i Lerpwl y tro diwethaf yn 1929.
Mae un o gymdeithasau Cymraeg yr ardal wedi dweud wrth yr Eisteddfod Genedlaethol nad oedden nhw am wahodd y brifwyl i Lannau Mersi.
Dywedodd Cymry Cymraeg Lerpwl a Phenbedw eu bod yn poeni nad oedd digon o Gymry Cymraeg yno i drefnu'r ŵyl.
Mae Roderick Owen, llywydd Cymdeithas Cymry Lerpwl, wedi dweud nad oedd trigolion Cymraeg Lerpwl a Phenbedw o blaid cynnal y Brifwyl.
Honnodd y gymdeithas yn Ebrill nad oedd cyngor y ddinas wedi trafod cynnal yr Eisteddfod ym Mharc Sefton â nhw.