Ffugenw Siān Eirian Rees Davies oedd Cae Gors
|
Siān Eirian Rees Davies o Bwllheli sydd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.
Gofynnwyd am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storļol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Ymgeisiodd naw yn y gystadleuaeth a'r beirniaid oedd Elfyn Pritchard, Catrin Puw Davies a Bethan Mair.
Yn ogystal ag ennill y Wobor Goffa mae Ms Davies yn derbyn £5,000.
Mae'r nofel yn adrodd hynt a helynt y fintai gyntaf i Batagonia ac roedd wedi gorffen y gwaith fel rhan o'i chwrs sgrifennu creadigol yn y coleg.
Nid dyma'r wobr lenyddol genedlaethol gyntaf iddi ei hennill - cipiodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mōn y llynedd.
Sri Lanka
Yn ystod 2004-05 bu'n diwtor Cymraeg ail iaith yng Ngholeg Iāl Wrecsam ond mae'n dychwelyd i Bwllheli ym Medi i gwblhau cwrs yng Ngholeg Menai a chanolbwyntio ar brosiectau creadigol.
Un o'r prosiectau dan sylw yw nofel i blant sydd wedi ei hysbrydoli gan erchyllterau'r tsunami y llynedd.
Bydd yn gadael am Sri Lanka ddydd Gwener nesaf i weithio ar y prosiect gwirfoddol i gynnig help i'r ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw.
Bydd yn defnyddio ei phrofiadau yno i lunio nofel i blant 9-12 oed.
Cafodd Ms Davies ei geni ym Mangor a'i magu ar fferm ym Mhen Llŷn.
Bu'n ddisgybl yn ysgolion cynradd Morfa Nefyn a Nefyn, Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli.
Aeth wedyn i Goleg Prifysgol Cymru Bangor gan ennill gradd mewn ysgrifennu creadigol a doethuriaeth.