Richard Morris Jones: Yn cydnabod y gwendid
|
Mae cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau wedi galw am greu panel o wirfoddolwyr i sicrhau fod stondinwyr ac arlwywyr yn cadw at reol iaith y Brifwyl.
Mae trefnwyr y Brifwyl wedi bod yn crwydro'r Maes unwaith eto eleni yn tynnu sylw pobl at wendidau eu harwyddion ac yn egluro sut i'w cywiro.
Dywedodd cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod fod pethau wedi gwella ers eisteddfodau'r gorffennol er nad oes neb yn hapus â'r sefyllfa.
 |
Fe fydden nhw'n gallu cysylltu â'r stondinwyr, trafod ymlaen llaw a chynnig grantiau
|
"Dim ond yng nghanol y gweithgareddau mae rhywun yn sylweddoli mor eithriadol o brysur yw'r trefnwyr yn ystod wythnos yr Eisteddfod," meddai Richard Morris Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Eryri.
"Dylai fod, yn ogystal â'r holl bwyllgorau, banel o wirfoddolwyr sy'n cynorthwyo'r trefnwyr pan yn derbyn y rhestr o stondinau," meddai.
"Fe fydden nhw'n gallu gweld pwy sydd ddim yn deall Cymraeg yn hytrach na dibynnu ar staff yr Eisteddfod sy'n gynyddol brysur.
"Fe fydden nhw'n gallu cysylltu â'r stondinwyr, trafod ymlaen llaw a chynnig grantiau er mwyn cryfhau yr arwyddion.
Cwmnïau o Loegr
"Rydyn ni'n cydnabod y gwendid ac mae angen panel i wneud hyn yn unig a byddai hynny'n lleddfu llawer ar y broblem."
Dywedodd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, fod gwaith gan y trefnwyr i'w wneud o hyd o ran crwydro'r Maes yn tynnu sylw stondinwyr at wendidau ac egluro sut i gywiro hynny.
Doedd pawb, meddai, ddim yn cadw at yr amodau a dywedodd ei fod angen trafod â chyfreithiwr yr Eisteddfod ynglŷn â beth i'w wneud.
Wrth sôn am ddarparwyr bwyd dywedodd Mr Roberts fod rhai cwmnïau o Loegr yn gwneud hynny.
Dywedodd y byddai'n braf pe bai cwmnïau o Gymru'n darparu bwyd "petaen ni'n byw mewn byd delfrydol".
"Y gwirionedd yw nad oes digon o gwmnïau yng Nghymru sy'n dymuno dod i ddarparu bwyd," meddai.
"Mae pawb sydd ar restr Cyfarwyddiaeth Bwyd yr Awdurdod Datblygu wedi cael gwahoddiad i gyflwyno tendr.
"Os nad ydyn nhw yma naill ai doedd y cynnig ddim digon da yn ariannol neu doedden nhw ddim eisiau dod yma," meddai.