Dilynodd protestwyr Brif Weinidog Cymru o amgylch y Maes
|
Mae ymgyrchwyr deddf iaith wedi ceisio amharu ar ymweliad Prif Weinidog Cymru â Maes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith yn dilyn Mr Morgan, gan alw am ddeddf iaith.
Honnodd y protestwyr i Mr Morgan ymateb drwy ddweud "boring, boring, boring" ond gwadodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad iddo ddweud y geiriau.
Ni fyddai Mr Morgan yn ymateb i "lond dwrn o fwlis," meddai'r llefarydd.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu am ddeddf fyddai'n rhoi hawl gyfreithiol gyfartal i'r Gymraeg yn y sector preifat a chyrff cyhoeddus.
Dywedodd yr ymgyrchwyr y bydden nhw'n dal i brotestio tan y byddai Mr Morgan yn cytuno i drafod y mater.
"Gadawon ni neges iddo ddod draw i babell Cymdeithas yr Iaith i drafod yr argyfwng difrifol sy'n wynebu ein cymunedau Cymraeg," meddai Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith.
"Ond 'Na' oedd yr ateb gawsom ni."
'Anaddas'
Dywedodd ei fod yn cefnogi penderfyniad Mr Morgan i gael gwared ar nifer o gwangos, gan gynnwys y Bwrdd Iaith.
"Ond rydan ni'n disgwyl fod yna fforwm iaith cry' yn cael ei roi yn ei le."
Dechreuodd y rali y tu allan i stondin y gymdeithas
|
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod protest Cymdeithas yr Iaith yn "gwbl anaddas".
"Ni fydd y prif weinidog yn ymateb i lond dwrn o fwlis ar ddiwrnod pan mae'n ceisio cyfarfod â phobl sy'n gwneud gwaith pwysig, fel y rhai ar stondin Mencap.
"Rydym yn hapus i drafod yr iaith Gymraeg ac yn teimlo fod ein record o ran hybu'r iaith yn dda.
"Yn anffodus, bydd yr hyn y mae'r bwlis yn ei wneud dim ond yn gwanhau sut mae pobl yn ystyried agenda yr iaith Gymraeg."
Brynhawn Mawrth cynhaliodd y gymdeithas rali'n galw am ddeddf iaith.
Dechreuodd y rali y tu allan i stondin y gymdeithas a'r siaradwraig gyntaf oedd Elin Jones, AC Ceredigion.
'Dim amheuaeth'
Llongyfarchodd Cymdeithas yr Iaith am gynnal trafodaeth ar ddeddf iaith a dywedodd nad oedd "amheuaeth fod angen deddf iaith newydd i roi hawliau statudol i bob siaradwr Cymraeg.
"Mae papur gwyn wedi ei gyhoeddi gan Peter Hain yn trafod pwerau'r cynulliad ac mae gobaith y gellir trosglwyddo'r holl ddeddfau ar y Gymraeg i'r cynulliad," meddai.
Fe fu Elin Jones AC yn siarad yn y rali
|
Roedd "rhaid sicrhau ein bod yn ennill y ddadl fod angen deddf newydd ar yr iaith Gymraeg," meddai.
Aeth yr orymdaith i babell Cyllid y Wlad gan fod y mudiad am "ddangos cefnogaeth i'r rhai y mae eu swyddi dan fygythiad yn y swyddfa ym Mhorthmadog.
Tu alln i'r babell dywedodd Siân Howys na ddylai'r "arbenigedd a'r gwasanaeth Cymraeg gael eu chwalu.
"Mae'n rhaid cael swyddi yn y cymunedau Cymraeg," meddai.
Cyfeiriodd at "diffyg cynlluniau iaith". "Maen nhw'n arwynebol a dydyn nhw ddim yn newid y drefn."
'Dim cydwybod'
Roedd am ddweud y canlynol wrth Mr Morgan yn arbennig, meddai: "Heb ddeddf iaith i sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, does dim newid cyfeiriad ers Deddf Iaith 1993 a dyw Iaith Pawb ddim yn ddigon cryf.
Cafodd posteri eu gosod ar wal stondin y cynulliad
|
Wedyn aeth yr orymdaith i uned y cynulliad ar y Maes a gosodwyd posteri yn galw am ddeddf iaith ar wal y stondin.
Dywedodd Catrin Dafydd ei bod yn "gywilyddus fod Rhodri Morgan yn gwrthod trafod hyn. Does gan Lafur ddim cydwybod."
Roedd "cyfle gwirioneddol i wireddu deddf iaith eleni," meddai.
"Mae'r ffaith fod y Bwrdd Iaith yn cael ei ddileu yn creu nifer o opsiynau.
"Bydd yn rhy hwyr y flwyddyn nesaf gan na fydd y bwrdd iaith yn bodoli ac wedyn fyddai'r llywodraeth ddim yn atebol.
"Dydyn ni ddim yn mynd i adael i Rhodri Morgan yrru o'r Maes ac anwybyddu hynny (yr alwad am ddeddf iaith)," meddai.