József Trefeli sydd wedi bod yn dysgu'r dawnswyr
|
Mae dawnsiwr proffesiynol sy'n hanu o Hwngari wedi bod yn gweithio gyda grŵp dawns yn y gogledd i greu perfformiad ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth.
Creu Cyfle a Dawns i Bawb oedd yn cyflwyno Y Ddawns Ehangu yn y Neuadd Ddawns gyda Grŵp Dawns Ieuenctid Gwynedd, yn perfformio.
Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y dawnswyr a'r gwylwyr o agweddau cadarnhaol y gwledydd sydd newydd ymuno â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Jozsef Trefeli, 33 oed, wedi bod yn dysgu'r dawnswyr gan ddefnyddio ei wybodaeth o ddawnsio gwerin a cherddoriaeth draddodiadol Hwngari yn ogystal â choreograffi cyfoes.
Mae'r rhain wedi eu cyfuno i greu perfformiad sy'n cyfleu derbyn a newid.
Cymdeithas arbenigol ar gyfer dawns yn y gymuned yn y gogledd orllewin yw Dawns i Bawb ac mae wedi gwahodd Mr Trefeli i weithio gyda'r grŵ dawns drwy'r prosiect Ewropeaidd Creu Cyfle
Y traddodiadol a'r cyfoes
Y bwriad drwy greu'r Ddawns Ehangu oedd dysgu sut y gellir bod yn rhan o gymuned fwy heb golli hunaniaeth.
Mae Mr Trefeli wedi bod yng Nghymru ar bedwar achlysur gan weithio gyda'r bobl ifanc yn Galeri.
"Mae wedi bod yn brofiad ffantastig," meddai. "Maen nhw wedi bod yn gweithio'n galed iawn gan ddatblygu eu profiad corfforol a'u gallu i fynegi syniadau a'u dehongli drwy symudiadau.
Mae'r perfformiad yn cyfleu derbyn a newid
|
"Wrth greu'r coreograffi defnyddiwyd llawer o gerddoriaeth Hwngaraidd gan gyfuno camau dawns traddodiadol, sy'n debyg drwy Ewrop, gyda symudiadau cyfoes.
"Mae'r syniadau wedi eu datblygu gyda'r dawnswyr ac roedden nhw'n awgrymu llawer o symudiadau ac yn cymryd rhan yn y broses greadigol.
"Mae'n bwysig cael nod wrth weithio o ran perfformio ar lwyfan ac mae'r Eisteddfod yn gyfle perffaith."
Bydd y dawnswyr hefyd yn perfformio mewn cyngerdd gala yn Galeri ym mis Chwefror.
Dywedodd Sioned Huws o Dawns i Bawb, fod prosiect Creu Cyfle, sy'n dathlu'r ffaith fod 10 gwlad arall wedi ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, yn gyfle i wahodd coreograffydd o Hwngari.
"Roedd hyn yn bwysig iawn i ni gan ei fod yn ddawnsiwr uchel ei barch ar draws Ewrop ac rydyn ni wedi bod yn lwcus eithriadol ei fod wedi cytuno i weithio gyda ni."
Mae Mr Trefeli wedi bod yn cael gwersi dawnsio ers pan yn bump oed ac mae ei alluoedd dawnsio yn cynnwys tap, jazz, bale clasurol, dawns gyfoes amrywiol a dawnsio gwerin Hwngaraidd.
Cafodd ei hyfforddi yng Ngholeg Celf Melbourne ac erbyn hyn mae'n byw yn Geneva ac yn gweithio fel perfformiwr a choreograffydd gyda chwmni Alias.
Er ei yrfa brysur mae'n dal i gynnal dosbarthiadau dawnsio gwerin Hwngaraidd a threfnu nosweithiau dawns, Tanchas.