Dyma fydd ymddangosiad ola' criw Porc Peis Bach
|
Fe fydd perfformiad ychwanegol arall o O Diar! Sioe Lwyfan Porc Peis Bach yn ystod wythnos yr Eisteddfod oherwydd y galw mawr am docynnau.
Roedd Cambrensis Cyf a Theatr Bara Caws eisoes wedi ychwanegu un perfformiad arall i'r rhestr o berfformiadau yn ystod yr wythnos, sef prynhawn Iau.
Ond wedi i'r seddi hynny hefyd werthu i gyd mae'r ddau gwmni sy'n cyd-gynhyrchu'r sioe, wedi penderfynu ychwanegu un perfformiad arall i'r rhai sy'n awyddus i gael un tamaid olaf o Porc Peis Bach.
Bydd yr ail berfformiad ychwanegol yn cael ei lwyfannu yn Theatr Gwynedd, Bangor, brynhawn Gwener, Awst 5 am 2.00.
Wedi gwerthiant sylweddol dros yr wythnosau diwethaf mae'r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu ar gyfer perfformiadau'r hwyr a'r perfformiad matinee brynhawn Iau.
Atgofion personol
Addasiad llwyfan gan greawdwr Porc Peis a Porc Peis Bach, Wynford Ellis Owen, yw'r sioe, sydd yn Theatr Gwynedd tan Awst 6.
Mae wedi ei chyfarwyddo gan Valmai Jones a'i chynllunio gan Emyr Morris-Jones.
Dyma'r tro olaf y bydd Porc Peis yn cael ei gyflwyno gyda'r cast yn addo peidio siomi.
Mae Wynford Ellis Owen wedi ysgrifennu ac actio mewn chwe chyfres am hynt a helynt trigolion pentref Llanllewyn yng nghefn gwlad Cymru'r 1950au a'r 1960au.
"Rwy' wrth fy modd yn clywed bod cymaint yn mwynhau'r gyfres a bod nifer o'n atgofion personol i fel plentyn yn gallu apelio at gynifer o bobl yng Nghymru," meddai Wynford Ellis Owen.
Dywedodd bod yr ymateb i ymddangosiad olaf y cast gyda'i gilydd wedi bod yn "wych".
Mentro i'r Maes
Dywedodd llefarydd ar ran Theatr Gwynedd: "Dwi'n meddwl mai atyniad y ddrama yw ei bod ar y teledu ac yn boblogaidd iawn gyda phlant ac mae'r rhan fwyaf o docynnau wedi cael eu gwerthu i blant."
Ar ôl ychydig o broblem gyda iâr golledig, mae'r sioe yn addo bod yn llwyddiant mawr gan ddenu nifer o blant ac oedolion i'r theatr.
Yn y cyfamser mae Donald (Wynford Ellis Owen), Kenneth (Siôn Trystan) a gweddill criw Llanllewyn hefyd yn mentro i faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth, am 12.00.
Wedi cyfnod o grwydro'r maes gyda phared lliwgar fe fyddan nhw'n diweddu'r daith gyda pherfformiad ar y llwyfan agored ger Patio Bwyd 1 am 1.00.