Bydd swyddogion y bwrdd yn cyhoeddi'r strategaeth ar y Maes
|
Mae'r Bwrdd Iaith, sy'n cyhoeddi ei strategaeth am ddyfodol y Gymraeg ddydd Mawrth, yn galw am fwy o hawliau i siaradwyr Cymraeg.
Ond nid yw'r corff sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn galw am ddeddf iaith.
Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall mai adeiladu ar waith y gorffennol y mae'r bwrdd a'i fod am i'r sector preifat ddefnyddio mwy o'r iaith.
Dywedodd ymgyrchwyr o blaid deddf iaith fod y strategaeth yn "siomedig".
"Mae angen i ni edrych ar y ddeddfwriaeth ond mae hyn yn wir am unrhyw ddeddfwriaeth," meddai Meri Huws, cadeirydd y Bwrdd Iaith.
"Ac mae deddfwriaeth o hyd o dan y chwyddwydr. Does dim galw am ddeddf newydd, dim ond cadw golwg ar y sefyllfa yn sgîl yr hyn ry'n ni'n ei wybod."
Nod y bwrdd yw canolbwyntio ar greu gwell cydweithrediad rhwng mentrau iaith, cynghorau, Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'r strategaeth yn cynnwys argymhellion mewn 11 maes ac mae'r bwrdd am gynllun i ariannu'r mentrau iaith bob tair blynedd.
"Er bod y strategaeth yn galw ar y sector preifat i fabwysiadu polisïau dwyieithog, wnaiff hynny ddim digwydd heb ddeddf iaith," meddai Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith.
Gorfodi
Yr wythnos hon mae Ffred Ffransis, un o aelodau amlwg Cymdeithas yr Iaith, yn ymprydio fel rhan o'i ymgyrch am ddeddf newydd.
Dywedodd fod angen gorfodi'r sector preifat a chyhoeddus i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Os yw cymunedau Cymru i fyw, mae'n rhaid bod y cyrff cyhoeddus yn gwneud eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg."
"Mae'n bwysig ein bod yn edrych yn ôl ar yr hyn mae'r Bwrdd wedi ei gyflawni ac, i ryw raddau, i osod map at y dyfodol," meddai Ms Huws.
Mae'r bwrdd yn gorff statudol sy'n derbyn arian cyhoeddus ac yn 2003/04 cafodd grant o £12m.
Bydd y corff, gafodd ei sefydlu yn Rhagfyr 1993 o dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg, yn cael ei ddileu yn 2007.