Enillwyr y gwobrau menter gyda'u tlysau
|
Mae siaradwyr Cymraeg wedi eu gwobrwyo mewn seremoni ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod ddydd Llun.
Menter a Busnes, y cwmni datblygu economaidd, sy wedi trefnu Gwobrau Menter 2005.
Yr enillwyr oedd Y Blwch Tlws, Porthmadog, Llety Bodfor, Aberdyfi, Y Lolfa, Cwmni Tref Caernarfon a Hufenfa De Arfon Cyf.
Cafodd pob enillydd dlws o waith celf wedi ei gomisiynu'n arbennig ar gyfer y gwobrau.
Laura Thomas o Gaerdydd a enillodd y comisiwn ac mae'r tlysau yn yr Arddangosfa Gelf a Chrefft drwy'r wythnos.
Trin gwallt
Y Blwch Tlws, Porthmadog, enillodd y Wobr Menter i'r Ifanc, gwobr i berson neu grŵp o dan 30 oed.
Busnes trin gwallt yw hwn y prynodd Rhonwen Owen pan oedd yn 22 oed.
Aeth ati i'w ddatblygu a'i Gymreigio ac erbyn hyn mae'n salon haul a harddwch lle mae'r llenyddiaeth yn ddwyieithog a thermau Cymraeg am y triniaethau harddwch.
Dywedodd Ms Owen ei bod yn "falch iawn" o ennill y wobr a'i bod yn gobeithio y byddai'n "hwb ymlaen ac yn gwneud lles i'r busnes."
Roedd darpariaeth Gymraeg yn bwysig mewn ardal fel Porthmadog, meddai.
"Mae cwsmeriaid yn dod ata i am y rheswm fy mod yn siarad Cymraeg. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth ...," meddai.
Llety Bodfor, Aberdyfi, enillodd y Wobr Menter Twristiaeth a gwesty yw hwn sydd wedi ei weddnewid a'i droi'n fenter Gymraeg.
Mae'r Gymraeg i'w chlywed yn gyson yno a chanddi le amlwg ar ddeunydd cyhoeddusrwydd.
'Hwb'
"Bydd yn hwb i mi ac i'r tîm bach o staff i gadw'r ysbryd yn uchel ac mae'n braf cael cydnabyddiaeth am rywbeth yr ydyn ni'n ei wneud yn naturiol," meddai Ann Hughes o Lety Bodfor
Dywedodd fod y gwesty'n defnyddio cynnyrch lleol am ei fod yn "teimlo'n gryf y dylen ni gefnogi busnesau lleol.
"Mae safon yn bwysig ac mae llawer o fusnesau yn darparu cynnyrch o safon da ar stepen y drws."
Y Lolfa, y cyhoeddwyr ac argraffwyr, sydd wedi ennill y Wobr Menter Ardal am eu bod yn hyrwyddo'r Gymraeg ac yn cyfrannu at ffyniant economi'r ardal.
Mae'r cwmni yn cyhoeddi tua 35 o lyfrau Cymraeg a thua 15 o lyfrau Saesneg bob blwyddyn ac erbyn hyn mae'r busnes wedi ei drosglwyddo i'r ail genhedlaeth.
Dywedodd Menter a Busnes fod y cwmni'n enghraifft dda o fenter yn helpu i gadw pobl ifanc yn eu hardaloedd.
Mae'r gwerthiant i farchnadoedd tramor yn cynyddu a gwerthwyd hawliau llyfrau i Japan, Korea a Ffrainc.
Rhoddwyd Gwobr Menter Bro'r Eisteddfod i Gwmni Tref Caernarfon. Roedd y beirniaid yn edmygu menter fawr ddiweddaraf y cwmni sef agor canolfan Galeri yn Noc Fictoria yn y dref.
'Ysbryd'
Agorwyd y ganolfan, cynllun gwerth £7.5m, ym Mawrth 2005 ar ôl 10 mlynedd o waith ac mae'n cynnwys theatr/sinema ar gyfer 400 o bobl, oriel gelf, ystafelloedd ymarfer, 27 uned osod, bar a chaffi.
Canmolwyd y gwaith tymor-hir o geisio gweddnewid rhai o adeiladau'r dref a chreu adnoddau a chyfleoedd busnes.
Aeth y Wobr Menter Cenedlaethol i Hufenfa De Arfon Cyf Cymru am ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg, defnyddio ysbryd mentergarwch cryf ac am ei chyfraniad i economi Cymru.
Sefydlwyd y cwmni cydweithredol o ffermwyr lleol ar y safle presennol yn Rhydgwystl ger Chwilog yn 1938 ac erbyn hyn mae'n casglu a phrosesu dros 100 miliwn litr o laeth yn siroedd Gwynedd, Dinbych, Fflint, Môn a Cheredigion.
Dywedodd y beirniaid fod yr hufenfa'n destun edmygedd i'r diwydiant amaeth yng ngweddill Cymru.
"Mae'r Gwobrau Menter yn help i ddangos fod mwy a mwy o siaradwyr Cymraeg yn mentro i fyd busnes a bod mwy a mwy o fusnesau'n gweld manteision economaidd o ddefnyddio'r Gymraeg," meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes.
"Drwy gysylltu'r iaith Gymraeg â'r economi mae'r Gwobrau Menter yn tanlinellu potensial yr iaith fel adnodd gwirioneddol ym myd busnes."