Arglwydd Roberts: 'Angen dysgu gwersi'
|
Mae un o wleidyddion mwya profiadol Cymru wedi dweud y dylai'r cynulliad gael mwy o bwerau.
Ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun dywedodd yr Arglwydd Roberts o Gonwy fod y llywodraeth wedi "colli ei ffydd gynnar mewn datganoli i Gymru".
Roedd angen dysgu gwersi, meddai, oherwydd datblygiadau Senedd yr Alban a gogledd Iwerddon.
Ond mae llefarydd ar ran cabinet Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud fod yr awgrym fod Llywodraeth San Steffan neu'r cynulliad yn "ymbellhau" oddi wrth datganoli yn "chwerthinllyd".
Wrth drafod Comisiwn Richard a Phapur Gwyn y Llywodraeth, dywedodd yr Arglwydd Roberts ei fod yn "... radical mor bell ag y mae datganoli yn y cwestiwn" ac yr hoffai "weld grym y Cynulliad yn cwrdd â disgwyliadau pobl Cymru".
Ond dywedodd llefarydd ar ran cabinet Llywodraeth y Cynulliad, fod y papur gwyn yn flaengar, yn unol â'r farn gyhoeddus.
Yng nghyfarfod Ymgyrch Senedd i Gymru ym Mhabell y Cymdeithasau dywedodd yr Arglwydd Roberts y gallai colli etholiad arwain at ddatblygiadau cadarnhaol.
"Un o'r manteision yw bod yn rhaid i chi gael gwared ar sgerbydau hen bolisiau ac edrych am ffordd newydd ymlaen.
"Dylem ni ddysgu oddi wrth y datblygiadau diddorol yn yr Alban lle mae Ceidwadwyr yr Alban yn bwriadu defnyddio grym y Senedd er mwyn lleihau treth incwm, ac felly hyrwyddo twf economaidd a chyflogaeth."