BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Chwefror 2006, 10:14 GMT
Tair agos yn 'pellhau'
Manon, Medi a Malan Vaughan Wilkinson. Llun: S4C
Manon, Medi a Malan Vaughan Wilkinson yn blant
Ar adeg bwysig yn eu bywyd mae tripledi 18-oed yn mynd i gyfeiriadau gwahanol am y tro cyntaf.

Bu portread o'r tair chwaer o Gaernarfon ar raglen nos Fawrth yn dangos eu bod yn cydnabod fod gwahanu o les wrth ddatblygu fel unigolion.

Yn enwog yn ardal eu mebyd, mae Manon, Medi a Malan Vaughan Wilkinson wedi bod yn perfformio gyda'i gilydd yn driawd mewn eisteddfodau a chyngherddau.

Yn rhaglen O'r Galon mae'r tair yn perfformio ar lwyfan am y tro olaf, yn neuadd bentref Llanfaelog, Ynys Môn, ac yn cofio am eu mam oedd wedi'u hannog i berfformio.

'Ffydd'

Bu farw Siân Vaughan Wilkinson o gansyr pan oedd y tair ym mlwyddyn gyntaf eu Lefel-A a'u tad Douglas ofalodd amdanyn nhw.

Bod ar y llwyfan am y tro olaf oedd y ffordd addas o "gau pennod a'n galluogi i fynd ymlaen yn ein meysydd gwahanol," meddai Manon.

"Roedd Mam wedi rhoi ffydd inni gredu y gallwn ni wneud yr hyn yr oeddwn ishe gwneud trwy ddyfalbarhau," meddai Medi.

"Doedd rhoi i fyny ddim yn rhywbeth y dylen ni wneud ac eto roedd hi'n ofalus iawn nad oedden ni'n anelu'n rhy uchel ...

"Er bod bywyd yn wych a phrysur rwan - roedd y blynyddoedd efo Mam mor ffantastig a phrysur."

Dechreuodd y rhaglen ddilyn y tair yn Hydref 2004 wrth iddyn nhw ddewis llwybrau amrywiol a pharatoi i fynd i'r coleg.

Manon, Medi a Malan Vaughan Wilkinson. Llun: S4C
Y tair chwaer yn Hydref 2004

Nod Medi oedd mynd i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, tra oedd Malan am fynd i Fanceinion i astudio'r gyfraith.

Ac mae Manon wedi cymryd blwyddyn o seibiant cyn sicrhau lle yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd, i astudio drama.

"Mae rhan o'r profiad o fod yn un o dripledi'n dda," meddai Malan. "Ond mae'n biti hefyd nad yw pobl wastad wedi'n gweld ni am yr unigolion yr oedden ni ar y pryd.

"Roedd pobl a oedd yn cymryd yn erbyn un ohonon ni'n dueddol o gymryd yn ein herbyn ni i gyd, a'r rhai oedd yn licio un, yn ein licio ni i gyd.

"Ond doedd neb cweit yn ein licio am y rhesymau iawn."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^