A fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Lerpwl yn 2007?
|
Mae'r dyn o blaid cynnal y Brifwyl yn Lerpwl yn 2007 wedi dweud fod gwrthwynebwyr yn "gul" ac yn "fewnblyg".
Dywedodd y Parchedig Dr D Ben Rees fod yr ymateb yn erbyn mynd â'r Brifwyl dros y ffin i Loegr yn "sarhad mawr" ar Gymry Glannau Merswy.
Anfonodd Cyngor Dinas Lerpwl wahoddiad swyddogol i gynnal yr Eisteddfod yn 2007 yn Rhagfyr y llynedd.
Bydd Cyngor yr Eisteddfod yn trafod dyfodol yr Ŵyl mewn cyfarfod yn Eisteddfod Eryri a'r Cylch yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Dywedodd y Dr Rees ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru fod y gwrthwynebiad i gynnal y Brifwyl yn Lerpwl yn "sarhad mawr arnom ni fel Cymry ar y glannau 'ma, y rhai sy'n gwneud eu gorau."
'Parchu'
Pe baen nhw'n Gymry Patagonia, meddai, byddai'r ymateb yn wahanol.
"Cymry ydi Cymry lle bynnag y maen nhw. Mae'r math hyn o ymateb yn dangos diffyg mawr ynom ni fel Cymry, ein bod mor gul, mor fewnblyg.
"Dwi ddim yn deall pam bod y bobl yma mor wrthwynebus ... Mae'r Eisteddfod i fod i ddangos ein diwylliant i'r byd cyfan, nid dim ond i Gymru.
"Byddai mynd dros Glawdd Offa, dim ond am unwaith, i barchu ein hanes ni yma yn Lerpwl yn rhoi bywyd newydd i'r Steddfod a delwedd wahanol iddi."
Pan anfonodd Lerpwl ei gwahoddiad i'r Eisteddfod, dywedodd Dr Robyn Lewis, cyn-Archdderwydd Cymru, fod y cais yn ei synnu.
Mae'r Eisteddfod wedi ei chynnal deirgwaith yn Lerpwl a dwywaith ym Mhenbedw ac aeth i Lerpwl y tro diwethaf yn 1929.
 |
YMWELIADAU I LOEGR
1866: Caer
1879: Penbedw
1884: Lerpwl
1887: Llundain
1900: Lerpwl
1909: Llundain
1917: Penbedw
1929: Lerpwl
|
'Gwanhau'
"Ganrif neu dri chwarter canrif a mwy yn ôl, ie, (byddai'n iawn) ond faswn i gant y cant yn erbyn mynd i Lerpwl," meddai'r Dr Lewis ar y pryd.
"Petai'r Eisteddfod yn mynd i Lerpwl, mae'n debyg na faswn i ddim yn mynd iddi oherwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ydy hi.
"Roedd llawer o Gymry yn byw y tu allan i Gymru yn y blynyddoedd a fu ond mae wedi gwanhau erbyn hyn ymhob man a dwi'n erbyn mynd â hi dros y ffin i unrhyw le arall.
'Poeni'
Dywedodd ei fod yn credu fod Lerpwl yn gobeithio elwa ar Flwyddyn Diwylliant 2008 ac yn disgwyl i ddalgylch eang o bobl gogledd Cymru godi arian i Eisteddfod Lerpwl.
Mae cymdeithasau Cymraeg yr ardal wedi dweud wrth yr Eisteddfod Genedlaethol nad oedden nhw am wahodd y Brifwyl i Lannau Mersi.
Dywedodd Cymry Cymraeg Lerpwl a Phenbedw eu bod yn poeni nad oedd digon o Gymry Cymraeg yno i drefnu'r Brifwyl.
Mae Roderick Owen, llywydd Cymdeithas Cymry Lerpwl, wedi dweud nad oedd trigolion Cymraeg Lerpwl a Phenbedw o blaid cynnal y Brifwyl.
Honnodd y gymdeithas yn Ebrill nad oedd cyngor y ddinas wedi trafod cynnal yr Eisteddfod ym Mharc Sefton â nhw.