BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Chwefror 2006, 17:06 GMT
Uno: Trydydd awdurdod yn erbyn
Car Heddlu De Cymru
Dydi'r cynllun i uno'r heddluoedd ddim wedi cael croso cynnes

Mae Awdurdod Heddlu Dyfed Powys wedi penderfynu na fyddan nhw o blaid uno heddluoedd Cymru yn wirfoddol.

Hwn yw'r trydydd awdurdod yn erbyn uno.

Cyhoeddwyd y penderfyniad ddydd Llun ar l i Heddlu'r Gogledd a Heddlu'r De gyhoeddi'r un penderfyniad yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi rhoi tan ddydd Gwener i'r pedwar heddlu gytuno ag uno a dywedodd Charles Clarke fod angen un heddlu i Gymru.

Dyw Heddlu Gwent ddim wedi penderfynu'n derfynol eto.

Wrth gyhoeddi eu penderfyniad yr wythnos ddiwethaf roedd Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd wedi dweud wrth aelodau y bydden nhw'n "wallgof" i gytuno.

Rhy fach

Dywedodd Richard Brunstrom fod yr awdurdod heddlu yn haeddu atebion i gwestiynau am ariannu'r cynllun.

A dywedodd Awdurdod Heddlu'r Gogledd fod angen cadw'r "linellau cyfathrebu" 'r Swyddfa Gartref ar agor o hyd.

Cyhoeddwyd cynlluniau ailstrwythuro'r 43 llu yng Nghymru a Lloegr ym Medi pan ddywedodd Arolygiaeth yr Heddlu nad oedd strwythur yr heddlu yn addas.

Dadl y llywodraeth yw bod pedwar heddlu Cymru yn rhy fach, o ran nifer y plismyn, i ddelio throseddu difrifol a therfysgaeth ryngwladol.

Wythnos yn l dywedodd cadeirydd Awdurdod Heddlu'r De, Ray Thomas, na allen nhw "neidio'n ddall at uno" hyd nes y byddai cwestiynau am bwy fyddai'n ysgwyddo'r baich ariannol wedi eu hateb.

Ond mae Barbara Wilding, Prif Gwnstabl Heddlu'r De, wedi dweud ei bod o blaid uno gan ei fod yn "gwneud synnwyr yn llwyr".




HEFYD:
Uno: Awdurdod heddlu yn erbyn
17 Chwef 06 |  Newyddion
Uno: Heddlu arall yn erbyn
14 Chwef 06 |  Newyddion
Cynllun uno: Cyfarfod arbennig
10 Chwef 06 |  Newyddion
Uno heddlu: Clarke o blaid
06 Chwef 06 |  Newyddion
Uno: Heddlu heb benderfynu
23 Rhag 05 |  Newyddion
Heddlu: Cynllun uno o dan y lach
20 Rhag 05 |  Newyddion
Heddlu: Tri o blaid uno
06 Rhag 05 |  Newyddion
Heddlu: Beirniadu'r llywodraeth
01 Rhag 05 |  Newyddion
'Gam yn nes' at un heddlu
10 Tach 05 |  Newyddion
Nifer 'ddim am uno heddluoedd'
04 Tach 05 |  Newyddion
Un heddlu i Gymru: Cwestiynau
02 Tach 05 |  Newyddion
Heddlu: Cynnig opsiwn arall
28 Hyd 05 |  Newyddion
Heddluoedd i ddiflannu?
16 Medi 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^