Ar gefn y mygiad mae cyfarwyddyd ynglŷn â sut i ynganu'r gair
|
Mae cyfres o fygiau a fydd yn ceisio hyrwyddo'r Gymraeg mewn ffordd fywiog wedi eu lansio ar stondin Nant Gwrtheyrn ar Faes yr Eisteddfod yn Y Faenol.
Y gyflwynwraig Siân Lloyd a lansiodd y mygiau, sef Geiriau o'r Gymraeg, ar stondin y Nant.
Mae pob myg yn cynnwys gair Cymraeg ar ei du blaen ac ar y cefn mae'r gair Saesneg a chyfarwyddyd ynglŷn â sut i ynganu'r gair.
Y cartwnydd Mumph o Gaernarfon sydd wedi cynllunio'r mygiau a Glads, cwmni ei wraig, sydd wedi eu cynhyrchu.
"Mae'n anorfod nad ydi pawb sy'n ymweld â Chymru yn mynd i ddysgu Cymraeg ond mae'n bwysig eu bod yn deall bod ganddon ni ein hiaith ein hunain a thrwy hynny eu bod yn dangos mwy o barch at yr iaith," meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr y Nant.
"Mae'r mygiau yma yn ffordd hwyliog o ddechrau'r broses o godi ymwybyddiaeth."
Cymeriadau
Mae'r mygiau yn dangos cymeriadau Cymraeg fel GoGoGoch y ddraig, Gwyneth Gwisg a Wil y gwas fferm.
"Mae'r cymeriadau i gyd wedi eu seilio ar fy mhrofiadau i wrth dyfu i fyny yng Nghymru - hyd yn oed Deilen y Draenog" meddai Mumph.
"Pan oeddwn i'n hogyn ifanc mi wnes i fagu draenog oedd wedi'i anafu a Deilen oedd yr enw roddwyd ar y draenog hwnnw."
Dywedodd Gladwen Humphreys, perchennog cwmni Glads mai "holl bwrpas y mygiau yw hybu'r iaith."
"Ein gobaith ni fel cwmni yw dangos i ymwelwyr bod yr iaith Gymraeg yn bodoli ac yn fyw a chreu rhyw sbarc bach o ddiddordeb yr un pryd," meddai.
"Bydd y mygiau yn rhoi cyfle i'r iaith gael ei gweld a'i thrafod dros baned led led y byd."