Dim ond 1% o fyfyrwyr Caerdydd sy'n astudio drwy'r Gymraeg, medd yr adroddiad
|
Mae 'na alw ar i'r buddsoddiad diweddar sydd wedi cael ei wneud i fyd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg gael ei roi yn ei gyd-destun.
Mewn papur gafodd ei gomisiynu gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru mae Dr Einir Young yn trafod yr arian diweddar sydd wedi cael ei glustnodi.
Ym mis Mehefin, yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, cyhoeddodd y bydd £2.9m ar gael am dair blynedd er mwyn ariannu 30 o ysgoloriaethau i hyfforddi 30 o staff drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac ar Orffennaf 26 cyhoeddwyd bod £300,000 ar gael bob blwyddyn am dair blynedd i Uned Datblygu Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru.
Dyma gamau pellach gan Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud "dwyieithrwydd yn realiti yng Nghymru" fel a nodwyd yn Iaith Pawb yn 2003.
Hefyd mae'r llywodraeth am weld Cymru yn "wlad decach, fwy llewyrchus, iachach, wedi'i haddysgu'n well".
Yn ôl papur gan Dr Young, Cyfarwyddwr Ysgol Astudiaethau Trwy'r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor, dydi'r gwariant ddim yn adlewyrchu'r dyheadau a'r ymrwymiadau.
Addysg Gymraeg
Dywed Dr Young y bydd "yr ysgoloriaethau yn hyfforddi'r myfyrwyr ar gyfer y gweithlu os bydd cyllid yn y sefydliadau i'w cyflogi".
"Nid yw'n gyfrinach bod y sector addysg uwch Cymreig yn brin o gyllid ar draws y sbectrwm gyda nifer o sefydliadau wedi colli staff eleni gan gynnwys staff cyfrwng Cymraeg oherwydd ailstrwythuro, ymddeoliad neu adleoli," meddai.
Mae'n dadlau mai dim ond 1% o fyfyrwyr Caerdydd, y coleg mwyaf poblogaidd yng Nghymru, sy'n astudio rhan o'u gwaith drwy'r Gymraeg a bod angen trafod y buddsoddiadau diweddar yn y cyd-destun ehangach.
"Mae llai na 20% o'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Dwyrain Cymru gyda 80% o'r myfyrwyr sy'n gwneud rhan o'u cwrs drwy'r Gymraeg wedi eu lleoli ym Mangor, Aberystwyth, Caerfyrddin neu Lanbed.
"Er bod twf wedi bod mewn addysg cyfrwng Cymraeg hyd at 16 oed nid yw 97% o fyfyrwyr prifysgolion Cymru yn astudio rhan o'u cwrs drwy'r iaith."
Fe fydd y papur trafod yn cael ei lansio ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Eryri ddydd Mawrth.