Bydd Cymorth Cristnogol yn cyflwyno'r briwsion i'r cynulliad ddydd Llun
|
Anfonwyd briwsion bara a gafodd ei ddosbarthu yn Oedfa'r Bore ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ddydd Sul yn i babell y Cynulliad Cenedlaethol ar y Maes.
Fe wnaeth Jeff Williams, Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymorth Cristnogol yng Nghymru, anerchiad ar y testun 'Briwsion bara' yn yr Oedfa ac yn ystod yr anerchiad cafodd bara ei rannu yn y Pafiliwn.
Mae Cymorth Cristnogol yn dathlu ei ben blwydd yn 60 oed eleni ac yn ystod y gwasanaeth canolbwyntiodd y mudiad ar Mozambique, un o'r gwledydd mae'n gweithio ynddi ers y 1970au.
Edrychwyd yn arbennig ar waith Cyngor Cristnogol Mozambique, un o brif bartneriaid Cymorth Cristnogol yn y wlad.
Yn ei anerchiad dywedodd Jeff Williams fod bara yn cael ei rannu i "gofio am bawb fydd yn ei fwyta yn rhywle yn ystod y dydd".
"I lawer o bobl, bydd bwyta bara yn dwyn ystyr symbolaidd crefyddol," meddai.
"Ond nid gweithred symbolaidd yn canolbwyntio ar y bara ei hun sydd gennym ni dan sylw heddiw - byddwn yn meddwl yn hytrach am y briwsion fydd dros ben ac yn eu defnyddio nhw yn sail i'n gweddïau a'n gweithredoedd."
'Briwsion polisïau'
Gofynnodd i'r gynulleidfa gymryd y dorth oedd yn eu rhes nhw a rhwygo tamaid gan ofalu fod y briwsion yn cael eu dal yn y fasged cyn ei basio mlaen ar hyd y rhes.
"O feddwl ein bod yn dathlu 60 mlynedd o waith Cymorth Cristnogol eleni mae'n warth fod cymunedau tlotaf ein byd yn dal i orfod bodloni ar friwsion: briwsion cydymdeimlad y cyhoedd, briwsion sylw'r wasg a briwsion cynlluniau a pholisïau gwleidyddion y gwledydd," meddai.
Mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio yn Mozambique ers y 1970au
|
Cyflwynwyd y briwsion gan Gymorth Cristnogol yn ym Mhabell y Cynulliad am 1200 ddydd Llun.
Dywedodd Mr Williams fod hyn yn "ffordd o dynnu sylw Cymru a'r byd at yr hyn a wnawn yn y Pafiliwn y bore ma."
"Ein neges yw fod angen mwy na briwsion i daclo problemau tlodi'r byd," meddai.
"Rydym yn ymrwymo i ddal ati i dynnu sylw at yr anghyfiawnderau sy'n dal i gaethiwo bobl mewn tlodi a gweithio mewn ffydd a gobaith i roi terfyn ar dlodi," meddai.
'Rhannu'
Wrth sôn am y weithred o rannu bara dywedodd Branwen Niclas, Cydlynydd Ieuenctid Cymorth Cristnogol yn y gogledd, fod "bara'n rhywbeth yr ydan ni'n ei rannu fel pobl."
"Mae ganddon ni fasged i bob rhes a bydd pobl yn cael darn o fara. Bydd naan o India, ciabatta o'r Eidal ac mae hynny'n adlewyrchu'r pethau rydan ni'n ei rannu fel pobl.
"Ar y diwedd mi fyddwn ni'n casglu'r briwsion a fyddwn ni'n eu cyflwyno i'r cynulliad fel symbol o dlodi rhan o'r byd lle mae pobl yn gorfod byw ar friwsion."