Mae aelodau'r clwb yn anhaous gyda'r diffyg darpariaeth
|
Mae 'na gwyn am ddiffyg darpariaeth yn yr Eisteddfod ar gyfer beicwyr.
Yn ôl un clwb beicio o'r gogledd wnaeth ymweld â'r Eisteddfod ddydd Sadwrn does dim ystyriaeth i feicwyr yn "strategaeth drafnidiaeth y trefnwyr".
Ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod ddydd Sadwrn, pan wnaeth dros 18,000 ymweld â'r Maes yn y Faenol, doedd dim trafferthion traffig.
Wrth ymateb i gwynion Clwb Beicio Cefni dywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod y byddai'n "gwerthfawrogi pe baen nhw wedi dod aton ni ynghynt i gynnig eu harbenigedd" a bod lleoedd ger y brif fynedfa i gadw beiciau.
Dros yr wythnosau diwethaf mae 'na bryder wedi bod am y trafferthion traffig a allai godi yn ardal yr Eisteddfod eleni oherwydd gwaith paentio ar Bont Menai.
Oherwydd hynny dywedodd Hywel Meredydd, arweinydd Clwb Beicio Cefni, bod llawer wedi penderfynu defnyddio'r beic i gyrraedd y maes.
"Oherwydd trafferthion croesi'r Fenai a mynediad arferol i'r Faenol, fe fyddwn wedi disgwyl y byddai'r trefnwyr wedi sicrhau mynediad diogel a hwylus i feicwyr," meddai.
'Dim manylion'
Dywedodd bod criw o'r clwb wedi mynd i'r Maes ddydd Sadwrn ac wedi sylwi ar y "diffyg darpariaeth" ar eu cyfer.
Does dim arwyddion rhybudd am feicwyr yno yn ôl y clwb
|
Ychwanegodd nad oes dim manylion yn rhaglen y dydd i feicwyr er bod 'na fanylion manwl i yrwyr.
"Mae aelodau'r clwb yn galw ar yr Eisteddfod a'r trefnwyr lleol i ystyried y beicwyr," meddai.
"Rydym am i'r trefnwyr lleol sicrhau bod arwyddion yn rhybuddio gyrwyr ceir i fod yn ymwybodol o feicwyr ar hyd y ddwy fynedfa.
"Rydym hefyd am weld lle diogel i gadw beiciau a lle addas ar gyfer newid ger y fynedfa."
Mae'r clwb hefyd yn galw ar swyddogion canolog yr Eisteddfod i fabwysiadu polisi "beicio i'r Eisteddfod yn flynyddol" a fyddai'n cael ei fabwysiadu gan y pwyllgorau lleol.
Wrth ymateb dywedodd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ei fod yn "siomedig fod y clwb beicio yn datgan eu siomedigaeth i'r wasg a'r cyfryngau yn hytrach na threfnwyr yr Eisteddfod.
"Maen nhw'n gwybod ers dwy flynedd fod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yma ac fe fyddwn i'n gwerthfawrogi pe baen nhw wedi dod aton ni ynghynt i gynnig eu harbenigedd," meddai.
"Petaen nhw wedi dod aton ni chwe mis neu flwyddyn ynghynt fel y bydd cyrff eraill yn ei wneud byddai'n haws ac yn fwy adeiladol.
"Mae lleoedd ger y brif fynedfa i gadw beiciau ac mae hynny wedi bod yn cael ei drefnu ers o leiaf tair blynedd. "