Golygfa y tu ôl i'r llenni o'r ffilm fer O Wlad y Gân i Wlad y Gân gan Heledd Lewis
|
Mae pum ffilm fer sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â diwylliannau'r gwledydd sydd newydd ymuno â'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu dangos ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun.
S4C sydd wedi eu comisiynu fel rhan o brosiect Creu Cyfle - Cultural Explosion - sy'n anelu i greu cysylltiadau hirdymor rhwng diwylliant Cymru a diwylliannau'r gwledydd sy'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.
Y Sefydliad Materion Cymreig sy'n arwain y prosiect ac mae nifer o bartneriaid yn cymryd rhan.
Y gwledydd sydd newydd ymuno â'r Undeb Ewropeaidd yw Latfia, Lithwania, Estonia, Gwlad Pwyl, Hwngari, y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Slofenia, Cyprus a Malta.
 |
Mae'r profiad o greu'r ffilm yn fwy na dim wedi agor fy llygaid i ddiwylliannau gwahanol
|
Dafydd Palfrey, Siwan Haf, Huw Derfel, Heledd Lewis a Llinos Griffin sydd wedi creu'r ffilmiau.
"Dewisodd y pum gwneuthurwr ffilm eu themâu eu hunain a'u steil unigryw, gan gynhyrchu ffilmiau sy'n wreiddiol, arbrofol a dychmygol," meddai Lowri Gwilym, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol Cyffredinol S4C.
"Maen nhw'n rhoi blas i ni o'r diwylliannau Ewropeaidd gwahanol ac mae wedi bod yn gyffrous i weld sut mae cenhedlaeth newydd yn dehongli'r pwnc, y tu allan i gyfyngiadau cyfres fformat arbennig."
Canolbwyntio ar gefnogwyr pêl-droed Cymru a Latfia mae ffilm Siwan Haf.
"Mae pêl-droed yn iaith ynddo'i hun a does dim angen iaith i ddod i nabod pobl drwy chwarae pêl-droed," meddai wrth egluro sut y cafodd y syniad y tu ôl i'r ffilm.
"Fe wnes i ddod o hyd i gefnogwr ifanc brwd o Gymru a seilio'r ffilm ar rai o'i brofiadau."
Clywed ieithoedd
Yn y ffilm mae'r cefnogwr yn dod yn ffrindiau â rhywun o Latfia ac roedd angen rhywun i gyfieithu rhannau o'r sgript felly i iaith y wlad honno.
Wrth chwilio am rywun i wneud y dasg daeth Ms Haf ar draws myfyriwr sy'n astudio yng Nghaerdydd.
"Mae'r profiad o greu'r ffilm yn fwy na dim wedi agor fy llygaid i ddiwylliannau gwahanol a chyfle i glywed ieithoedd na fyddwn i wedi dod ar eu traws fel arall," meddai.
"Mae'r gwledydd hyn yn rhai y dylen ni wybod llawer mwy amdanyn nhw."
Mae'r ffilmiau yn cael eu dangos ym Mhabell S4C ar stondin Creu Cyfle - Cultural Explosion ddydd Llun.
Fe fyddan nhw'n cael eu darlledu ar S4C ym mis Hydref i gyd-fynd gydag Uwch Gynhadledd Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd sy'n cael ei chynnal yng Nghaerdydd.