BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Awst 2005, 06:35 GMT 07:35 UK
300,000 o enwau lleoedd ar y we
Arwydd ffordd ym Mhen Llyn
Mae dros 300,000 o enwau wedi eu cofnodi yn y gronfa

Mae gwaith ymchwil i fwy na 300,000 o enwau lleoedd yng Nghymru yn cael ei lansio ar wefan ar Faes Eisteddfod Eryri ddydd Llun.

Holl adnoddau ymchwil un o gyn-ddarlithwyr Prifysgol Cymru, Bangor, sy'n ffurfio'r cronfa ddata fydd ar gael ar wefan newydd.

Casgliad y diweddar Athro Melville Richards yw'r gronfa, sy'n ymwneud ag enwau lleoedd, ei brif faes diddordeb.

Roedd yr Athro Richards yn un o ysgolheigion mwyaf disglair y coleg a bu'n athro'r Gymraeg yn y Brifysgol rhwng 1965 a'i farwolaeth yn 1973.

Gadawodd ei bapurau ymchwil ar adnau yn y Brifysgol.

Diddordeb

Mae'r nodiadau ar enwau lleoedd y casglodd yr Athro yn cofnodi cyfeiriadau mewn dogfennau at filoedd ar filoedd o enwau lleoedd, ffermydd, caeau, bryniau, nentydd, ynysoedd a baeau o bob cwr o Gymru.

Roedd yn athro dawnus, ac yn ysgolhaig eithriadol, gyda brwdfrydedd heintus
Athro Hywel Wyn Owen, Bagor

Dywedodd myfyriwr i'r Athro Richards ym Mhrifysgol Lerpwl, sydd nawr yn ddarlithydd ym Mangor, yn parhau efo'r ddiddodreb mewn enwau lleoedd, bod y casgliad yma yn "un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous erioed yn astudiaethau enwau lleoedd Cymru".

"Ond nid ymchwilwyr enwau lleoedd yn unig fydd yn elwa," eglurodd yr Athro Hywel Wyn Owen.

"Bydd haneswyr, achyddwyr, daearyddwyr, ieithwyr, geiriadurwyr, archeolegwyr, i gyd yn gweld hwn yn adnodd anghymarus i Gymru gyfan."

Mae'r casgliad, Archif Melville Richards, i'w gweld ar ffurf gwefan yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Cyhoeddodd yr Athro Richards yn doreithiog ar faterion llenyddol, ieithyddol a hanesyddol ond enwau lleoedd oedd obsesiwn ei fywyd.

Bu'n gyfrannwr cyson i nifer o raglenni radio a rhwng 1967 a 1970 roedd ganddo golofn wythnosol yn y Cymro.

Ei ddull o weithio oedd casglu tystiolaeth hanesyddol am enwau lleoedd o lawysgrifau, siarteri a dogfennau mewn gwahanol archifdai yng Nghymru a Lloegr, ac yna eu copo ar slipiau o bapur.

Gwaith ymchwil

Amcangyfrif bod nifer y slipiau oddeutu 330,000 ac maen nhw wedi eu cadw mewn 159 o focsys neu ddroriau yr oedd ef ei hun wedi'u hadeiladu.

Wedi ei farwolaeth, fe'u trosglwyddwyd i ofal Archifdy'r Brifysgol ble y gofalodd yr Athro Bedwyr Lewis Jones, ei olynydd, eu bod ar gael i ddibenion ymchwil.

Roedd fy nhad wedi ymgynnull byddin fechan o gymdogion i gario'r bocsys allan o'r tŷ ar l i dn gychwyn yno
Sin Lewis, merch yr Athro Melville Richards

Yn 1988, penderfynodd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru y dylid diogelu'r archif a sicrhau mwy o ddefnydd o'r adnoddau rhyfeddol.

Cychwynnodd yr Athro Bedwyr Lewis Jones a'r Athro Gwynedd Pierce ar brosiect a fyddai'n troi'r archif bapur yn gronfa-ddata.

Goruchwilwyd rhan gyntaf y prosiect gan Tomos Roberts a'r Athro Pierce ond er mwyn cyflymu'r prosiect, yn 2001 sicrhaodd yr Athro Hywel Wyn Owen grant o bron i 250,000 oddi wrth Bwrdd Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau o dan y cynllun Ymestyn Adnoddau.

Cyflogwyd pedwar ymchwilydd a llwyddodd i gwblhau'r dasg mewn tair blynedd.

"Roedd yn athro dawnus, ac yn ysgolhaig eithriadol, gyda brwdfrydedd heintus," meddai'r Athro Owen am ei gyn ddarlithydd.

Tn mewn tŷ

"Wedi hynny, nid oedd fawr o amheuaeth am fy ymrwymiad i ymchwil enwau lleoedd.

"Ei gas beth oedd rhai yn mwydro am enwau, yn cynnig ystyron mympwyol ar sail dychymyg toreithiog ar draul tystiolaeth hanesyddol dadansoddiad ieithyddol.

"Heddiw, flynyddoedd yn ddiweddarach, fe'i hystyriaf hi'n anrhydedd i fod wedi chwarae rhan yn sicrhau bod ei archif bapur bellach yn gronfa-data electronaidd ac yn wefan."

Dywedodd Sin Lewis, merch yr Athro Richards, ei bod cofio'r bocsys yn eu cartref yn Llangrannog.

"Mae gen i gof byw o dn yn cychwyn mewn un rhan o'r tŷ a'i fod o dan reolaeth yn fuan iawn.

"Ond yn y cyfamser roedd fy nhad wedi ymgynnull byddin fechan o gymdogion i gario'r bocsys allan o'r tŷ.

"Diolch i dechnoleg fodern, mae cynnwys 159 bocs wedi'u trawsnewid yn drysorfa o adnoddau ymchwil rhyngwladol o fewn cyrraedd pawb. Fe fyddai wedi gwirioni."





ERYRI A'R CYFFINIAU 2005

O'R MAES

GAN CYMRU'R BYD

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

ORIELAU

GWEFAN


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^