Mae'r caban, lle byddai chwarelwyr yn ymgynnull, i'w weld ar Faes yr Eisteddfod yn y Faenol.
Gweithwyr Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis sy'n efelychu bywyd a chymdeithas chwarel ers talwm yn y Caban ym mhabell Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Y caban oedd y man lle byddai'r chwarelwyr yn ymgynnull i yfed te a thrafod testunau amrywiol fel gwleidyddiaeth, undebaeth, diwylliant, cerddoriaeth, chwaraeon a chrefydd.
Mae pynciau gwahanol yn cael eu trafod yn ddyddiol yn y Caban ar y Maes a gobaith yr Amgueddfa yw y bydd sawl ymgom ddifyr ac efallai dadleuol.
Yn y Caban ers talwm Llywydd y Caban oedd yn cadw trefn a datrys unrhyw anghydfod a godai.
Mae arbenigwyr ar wahanol bynciau wedi eu gwahodd i gadw trefn ar y trafodaethau bob dydd yng Nghaban yr Eisteddfod ac mae llywydd gwahanol bob dydd.
Mae'r themâu trafod sydd wedi eu dewis yn berthnasol i fywyd cyfoes a gorffennol ardal y chwareli ac mae cyfle i'r cyhoedd ofyn cwestiynau.
'Man cymdeithasol'
Hefyd mae te yn cael ei ddarparu i leddfu'r syched wrth siarad ac ail greu awyrgylch y Caban traddodiadol.
Y pynciau fydd yn cael eu trafod yn ystod wythnos y Brifwyl yw cerddoriaeth, gwleidyddiaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth, crefydd, chwaraeon a hamdden, amaethyddiaeth, undebaeth, iechyd a lled a'r diwydiant llechi cyfoes.
"Roedd y caban yn fan lle'r oedd y chwarelwyr yn cyfarfod i fwyta brechdanau ac yfed te ond roedd yn llawer mwy na hynny gan ei fod yn fan cymdeithasol a lle i gynnal trafodaethau," meddai Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis.
"Drwy ail greu'r Caban mae'n gyfle i gael defnyddio'r elfennau traddodiadol.
"Mae'n bwysig i ni fel Amgueddfa Genedlaethol hybu trafod ac mae ganddon ni ran mewn annog pobl i ddod i ddeall mwy am hanes Cymru a gobeithio fod hyn yn codi cwr y llen iddyn nhw.
"Mae'r themâu sydd wedi eu dewis yn rhai rydyn ni'n gwybod oedd yn cael eu trafod yn y Caban."
Seiri a chwarelwyr sydd wedi codi'r Caban ar y Maes ac fe gymrodd dair wythnos i'w baratoi.
Corn chwarel
Defnyddiwyd ymchwil academaidd i sicrhau fod pob yn dim yn cael ei ail greu'n gywir.
"Fe ddaeth y syniad gan fod yr Eisteddfod mor agos i'r Amgueddfa Lechi ac roedden ni am ganolbwyntio ar un safle a gwneud rhywbeth hollol wahanol," meddai Gwenllïan Carr ar ran Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Dafydd Roberts: 'Rhan mewn annog pobl i ddod i ddeall mwy am hanes'
|
"Teulu'r Asheton Smith oedd yn byw yn y Faenol oedd biau Chwarel Dinorwig lle mae'r amgueddfa a thrwy ail greu caban ar dir y Faenol rydyn ni bron fel petaen yn herio pethau - y syniad o'r gweithwyr yn dod yn ôl ar dir y meistri a'u herio gyda'u syniadaeth."
Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn nhrafodaethau'r Caban gan chwarelwr, sef yr actor Ifan Wyn o Ynys Môn sy'n sefyll y tu allan i'r drysau gyda'i gorn chwarel.
Y tu mewn i'r Caban mae gwrthrychau sy'n ail-greu'r bywyd yn y chwareli.
Yn eu plith mai cadair Eisteddfod Gadeiriol Caban Mills 1938 a roddwyd i'r Amgueddfa Lechi yn 2000.
Dyw'r amgueddfa ddim wedi gallu dod o hyd i'r awdl fuddugol 'Cerdd i Ddiwrnod Gosod' ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un â chopi i gysylltu â nhw.
Dyma'r hyn sy'n cael ei drafod yn y Caban yn ystod yr wythnos:
Sadwrn, Gorffennaf 30 - Cerddoriaeth yng nghwmni Alun Llwyd
Llun, Awst 1 - Gwleidyddiaeth yng nghwmni'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Mawrth, Awst 2 - Llenyddiaeth a barddoniaeth yng nghwmni'r Prifardd Ieuan Wyn
Mercher, Awst 3 - Crefydd yng nghwmni John Roberts, Gohebydd Crefydd BBC Cymru
Iau, Awst 4 - Chwaraeon a hamdden yng nghwmni Arwel Jones, Hogia'r Wyddfa
Gwener, Awst 5 - Undebaeth yng nghwmni Tom Jones
Sadwrn Awst 6 - Iechyd a lles yng nghwmni Dr Eddie Davies a Y Diwydiant llechi cyfoes yng nghwmni Dr Dafydd Roberts.