Mae gobaith y bydd yr Eisteddfod yn llwyddo
|
Mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn ffyddiog y bydd modd dod i gytundeb ynglŷn â'r cynllun lle byddai pob cyngor sir yn cyfrannu'n flynyddol at y Brifwyl.
Dywedodd Elfed Roberts ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod ddydd Sadwrn ei fod yn eithaf hyderus y byddan nhw'n "llwyddo yn y pendraw i fynd â'r maen i'r wal".
Daeth cyhoeddiad ddydd Gwener y bydd gweithgor yn cael ei sefydlu a fydd yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i edrych ar faterion fel ariannu'r Brifwyl.
Wrth siarad ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn Y Faenol dywedodd Mr Roberts: "Mewn byd delfrydol byddai'n braf petai'r gweithgor wedi cyfarfod ond rydyn ni'n gobeithio y bydd penderfyniad ym mis Medi."
Dywedodd bod y trafodaethau hyd yn hyn gyda swyddogion y Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi bod yn "eithriadol o gadarnhaol".
'Degau o flynyddoedd'
"Mae yna ddyhead yno i ddatrys y broblem efo'n gilydd ac mae'r arweinyddion wedi dweud eu bod yn awyddus i gydweithio," meddai.
Mae'r Eisteddfod yn ffyddiog y daw cytundeb ariannol
|
"Mae'n dasg fawr dod â phawb at ei gilydd a chael yr hyn yr ydan ni ei eisiau ond dwi'n gymharol gyfforddus y byddwn ni'n llwyddo yn y pendraw i fynd â'r maen i'r wal.
"Bwriad y trafodaethau gyda'r gymdeithas yw sicrhau dyfodol yr Eisteddfod nid am flwyddyn ond am ddegau o flynyddoedd," meddai.
Dywedodd fod y gyfran o arian y bydd disgwyl i bob cyngor ei dalu yn un o'r pwyntiau sydd angen eu trafod.
"Rydyn ni'n fodlon cymryd arweiniad gan y gymdeithas. Mae Gwynedd eleni wedi cyfrannu £350,000 a dyna'r math o ffigwr yr ydyn ni'n chwilio amdano," meddai.
Rheol iaith
Dywedodd nad yw llacio'r rheol Gymraeg yn rywbeth sydd wedi ei awgrymu gan neb yn ystod y trafodaethau.
A dywedodd Dafydd Whittall, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, fod Alex Aldrige, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru , wedi "gwneud yn glir nad ydyn nhw eisiau ymyrryd â nod yr Eisteddfod ac maen nhw'n dymuno gweld ei llwyddiant".
Wrth drafod lleoliad Eisteddfod 2007 dywedodd Mr Whittall y dylid disgwyl i weld beth fydd canlyniad trafodaethau'r gweithgor cyn gwneud penderfyniad.
Mae Lerpwl wedi gwahodd yr Eisteddfod ond mai rhai'n gwrthwynebu mynd â'r Brifwyl i Loegr.
"Rhaid i'r llys gael yr holl ffeithiau cyn gallu gwneud penderfyniad," meddai Mr Whittal.
"Ar hyn o bryd dyw'r ffeithiau ddim ar gael a bydd y trafodaethau gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn greiddiol i unrhyw benderfyniad."