Roedd 'na bryder gwirioneddol am ddyfodol ariannol yr ŵyl
|
Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ystyried mynd yn fethdalwr y llynedd, yn ôl dogfennau yn nwylo BBC Cymru o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Daw'r wybodaeth ar gychwyn wythnos yr Eisteddfod yn Eryri eleni.
Er i'r Brifwyl ystyried mynd yn fethdalwr fel opsiwn, penderfynodd pwyllgor yn erbyn hyn a chreu cynllun argyfwng.
Dydd Gwener dywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, nad oedd yn cofio i'r Brifwyl ystyried ei mynd yn fethdalwr gwirfoddol.
Ond cadarnhaodd iddyn nhw ystyried y gallai credydwyr fod wedi gwneud y Brifwyl yn fethdalwr ym Medi 2004, hynny yw pe bai'r Brifwyl wedi methu â thalu ei dyledion.
Dywedodd Mr Roberts eu bod wedi bod yn agos iawn at fod yn fethdalwr gan nad oedd ganddyn nhw'r modd i dalu dyledion yr Ŵyl ym mis Medi 2004.
"Pe na bawn ni wedi cael arian gan gefnogwyr yr Eisteddfod...yr arian y cawsom gan Lywodraeth y Cynulliad a'r Bwrdd Iaith, ac wedi cymryd y camau wnaethom ni i arbed arian sylweddol, mae'n edrych yn debyg y byddwn ni wedi bod yn fethdalwr.
"Ddyle hynny ddim fod yn sioc i neb - oherwydd roeddem yn agos iawn," meddai Mr Roberts.
Cyfreithwyr
Yn ôl cofnodion cyfarfod yr Eisteddfod a Bwrdd yr Iaith Gymraeg y llynedd, roedd rhai cyfreithwyr ar Bwyllgor yr Eisteddfod yn dadlau y dylai fynd yn fethdalwr.
Ond dengys yr un cofnodion i gynllun argyfwng gael ei gytuno. Roedd y cyfarfod ar Fedi 9 2004.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod yng Nghasnewydd y llynedd cyhoeddodd y swyddogion apêl frys oherwydd trafferthion ariannol.
Mewn cyfarfod ar y Maes dywedodd swyddogion fod angen £300,000 cyn yr Hydref i sicrhau na fyddai rhaid i'r Eisteddfod Genedlaethol werthu unrhyw asedau.
Cymorth brys
Yr hyn oedd yn denu rhai at wneud yr Eisteddfod yn fethdalwr, mae'n debyg, oedd y byddai'n rhyddhau rhai o'r asedau.
Ond anfantais yr opsiwn oedd na allai'r Eisteddfod ofyn am grantiau o'r pwrs cyhoeddus ac y byddai hynny'n peryglu dyfodol yr ŵyl.
Yng nghyfarfod Medi 9 2004 sefydlwyd cynllun argyfwng oedd yn gostwng costau'r Brifwyl o £200,000.
Cafodd trafferthion ariannol yr Brifwyl eu lleddfu gan gymhorthdal brys Llywodraeth y Cynulliad sef £80,000.
Ar y pryd roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn wynebu dyledion o rhwng £300,000 a £350,000.