BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 19 Chwefror 2006, 09:55 GMT
Nodi cyfraniad arbennig Tich
James Gwilliam a Heather Jones

Cafodd gwobr arbennig ei chyflwyno yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2006 nos Sadwrn i ddathlu cyfraniad y diweddar gitarydd Tich Gwilym i'r sīn gerddorol Gymraeg.

Bu farw'r gŵr 54-oed oedd yn brif gitarydd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr, o ganlyniad tān mewn tŷ yng Nghaerdydd ym Mehefin 2005.

Mab Mr Gwilym a dderbyniodd y wobr gan un o gyfeillion agos y gitarydd, y gantores Heather Jones.

Roedd gwobrau hefyd i'r Poppies, Gai Toms, Frizbee, Sibrydion, Alun Tan Lan, Mattoidz, Gwyneth Glyn a Dyl Mei.

Bob blwyddyn mae'r orsaf yn anrhydeddu prif artistiaid y sīn roc a phop yn ystod y flwyddyn yn y Noson Gwobrau Roc a Phop (RAP).

Perfformiadau

Dafydd Du a Lisa Gwilym oedd arweinwyr y seremoni, gafodd ei chynnal am y seithfed tro eleni.

Radio Luxembourg
Fe gipiodd Radio Luxembourg dair wobr

Perfformiodd y Poppies, Gwyneth Glyn a'r Band, Radio Luxembourg a'r Genod Droog yn ystod y seremoni yng Nghanolfan Gynadleddau Gogledd Cymru, Llandudno.

12 categori oedd yna eleni ac fe roedd Radio Luxembourg yn fuddugol mewn tri ohonyn nhw - am y sengl orau, grŵp newydd orau'r flwyddyn a'r sesiwn orau ar raglen C2 Radio Cymru.

Gwrandawyr yr orsaf benderfynodd pwy oedd enillwyr dau ohonyn nhw sef gwobrau Digwyddiad Byw Gorau 2005 a Band y Flwyddyn.

Gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gafodd y naill wobr, tra'r band o Aberteifi Mattoidz enillodd y llall.

Y grŵp Sibrydion, y mae'r aelodau o'r Waunfawr ger Caernarfon, oedd yn fuddugol yng nghategori Albym y Flwyddyn gyda JigCal.

Gwyneth Glyn oedd artist benywaidd y flwyddyn ac Alun Tan Lan gipiodd y wobr yn y categori ar gyfer artistiaid gwrywaidd.

Wrth gael ei enwi'n Gynhyrchydd y Flwyddyn fe enillodd Dyl Mei ei bumed Wobr Rap unigol yn olynol.

Y Poppies oedd Band Byw y Flwyddyn.

Teyrnged

Gwobr fwya dirdynnol y noson oedd yr un a gafodd ei chyflwyno gan Heather Jones i fab y diweddar Tich Gwilym, James Gwilliam, i nodi cyfraniad allweddol y gitarydd i gerddoriaeth Cymru.

Y Poppies
Y Poppies gafodd eu henwi'n Fand Byw y Flwyddyn

Talodd cyfeillion eraill deyrnged arbennig a gafodd ei ddangos ar sgrīn.

Cofiodd Geraint Jarman ei gyfarfyddiad cyntaf ā Tich Gwilym yn stiwdio Stacey Road yn 1976 - un o sesiynau agoriadol Gobaith Mawr y Ganrif.

"O'r diwrnod hwnnw roedden ni'n ffrindiau pennaf, yn ffrindiau am 29 mlynedd," meddai. "Dwi'n ei golli fe'n ofnadwy.

"Roedd cyfraniad Tich i gerddoriaeth yng Nghymru yn anhygoel. Byddai Tich yn falch iawn i gael y wobr yma heno. Hir oes i Tich Gwilym a llwyddiant i'r achos."

Dyma rhestr lawn enillwyr eleni:

Ep/Sengl
Radio Luxembourg: Pwer y Fflwer/Lisa, Magic a Porva

Albwm
Sibrydion: JigCal

Band mwyaf addawol 2005
Radio Luxembourg

Cyfansoddwr
Gai Toms

Band byw
Poppies

Cynhyrchydd
Dyl Mei

Artist benywaidd
Gwyneth Glyn

Artist gwrywaidd
Alun Tan Lan

Band pop
Frizbee

Sesiwn orau C2
Radio Luxembourg

Digwyddiad byw gorau (Pleidlais gwrandawyr Radio Cymru)
Gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Band y flwyddyn (Pleidlais gwrandawyr Radio Cymru)
Mattoidz

Bydd y noson yn cael ei darlledu ar Radio Cymru ar Chwefror 20 am 2000 a bydd ailddarllediad fore Sadwrn, Chwefror 25, am 1100.




HEFYD:
Tich Gwilym yn marw
25 Meh 05 |  Newyddion
Bandiau'n cipio prif wobrau
21 Chwef 05 |  Newyddion
Dewis enillwyr RAP 2004
14 Ion 04 |  Newyddion
RAP: Dafydd Iwan yn derbyn anrhydedd
10 Chwef 03 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^