Mae'r Maen Llog wedi ei osod yng Ngylch yr Orsedd ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau ddydd Gwener.
Roedd y garreg i fod i gael ei gosod ar y Maes ddydd Iau ond bu'n rhaid gohirio oherwydd y tywydd.
Mae'r meini gwydr-ffibr yn lle'r cerrig traddodiadol a'r nod yw eu symud o Eisteddfod i Eisteddfod ac arbed costau codi Cylch yr Orsedd.
Roedd yr hen feini wedi eu defnyddio ers Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1899 a bydd y rhai newydd yn cael eu defnyddio yn ystod y Cyhoeddi.
Dr Emyr Roberts a'i wraig Christine o Fethesda sydd wedi cynllunio'r Maen Llog a'r 12 maen arall.
'Hapus'
Penderfynwyd defnyddio meini symudol wedi i Adroddiad Stevens, adolygiad o ddyfodol y Brifwyl, awgrymu yn 2003 y bydden nhw'n haws i'w trin.
Roedd cyfle i'r cyhoedd brynu neu noddi'r meini a'u rhoi i'r Eisteddfod fel rhodd.
Bydd y meini newydd yn cael eu defnyddio gyntaf yn Eisteddfod Eryri fore Llun am 11.00 os y bydd y tywydd yn caniatáu.
Dywedodd Ifan Eryri ddydd Gwener ei fod yn hapus â'r Maen Llog a'r meini eraill.
"Maen o bren yw o wedi ei orchuddio â Jazmonite ac mae'n drwm ofnadwy," meddai Ifan Eryri, Pensaer yr Orsedd.
"Dwi'n wirioneddol hapus gyda'r Maen Llog fel y cerrig eraill a'r gobaith yw y byddan nhw'n para am y 50 mlynedd nesaf.
"Mae Dr Emyr Roberts a'i wraig Christine wedi gwneud gwaith bendigedig."
Noddwyr
Yr Archdderwydd Selwyn Griffith a'i wraig sydd wedi rhoi'r Maen Llog a fo fydd yr Archdderwydd cyntaf i'w defnyddio.
Pensaer yr Orsedd, Ifan Eryri, a'i wraig Beryl sydd wedi rhoi'r ddau Faen Porth a Dilwyn Cemaes, Ceidwad y Cledd ac Arwyddfardd ers 30 mlynedd,sydd wedi rhoi Maen y Cyfamod.
Dyma restr o'r rhai sydd wedi rhoi'r naw maen ar ôl yn y cylch:
Maen 1 a 2: Rhodd dienw;
Maen 3: Gwyn Eryri, Alwenna ei wraig a'u tri phlentyn, Llŷr, Rhydian a Heledd;
Maen 4: Jâms Nicholas, Y Cofiadur a Chyn-Archdderwydd, a'i wraig Hazel;
Maen 5: Mrs Jean Evans, er cof am Delme y cyn-Arwyddfardd;
Maen 6: Mr Cyril Burton Williams o Langernyw ond yn byw yn Rhuthun;
Maen 7: O Gerallt Jones a'i wraig Marian Wyn Jones a'r plant Gareth a Sara Pennant Jones, un o'r llawforynion yn y Faenol eleni;
Maen 8: Rhodd dienw;
Maen 9: Bryn Terfel yn rhoi maen yn enw ei dri phlentyn Tomos, Morgan a Deio Terfel.