Mae Tir Na Nog wedi ennill dwy wobr i Zac Holbert a Sarah Louise
|
Mae ffilm a gostiodd £100 i'w chreu ac sy'n cynnwys cast o ffrindiau a theulu'r cynhyrchwyr wedi ennill un o wobrau gŵyl flynyddol ar gyfer myfyrwyr Cymru.
'Tir Na Nog' - ffilm gynta Sarah Louise, cantores 21-oed o Gaernarfon, a'i chariad Zac Holbert, 24, o Texas - oedd enillydd y categori ar gyfer ffilmiau Cymraeg yng ngŵyl Ffresh, Gŵyl Delweddau Symudol Myfyrwyr Cymru.
Mae'r ddau, sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor, wedi sefydlu cwmni eu hunain fydd yn cynhyrchu dwy ffilm fer ffuglen wyddonol yn y misoedd nesa yn ogystal â fideo "arloesol" i gydfynd â chân o ail gryno ddisg Sarah.
Roedd naw enillydd i gyd yn y seremoni gafodd ei chynnal gan Sgrîn Cymru yn Aberyswyth nos Wener.
"Roedd i'r ffilm fuddugol hon gymeriadau cryf, actio da a deialog naturiolaiddd ynghŷd â hiwmor cynnil, credadwy," meddai'r sgriptiwr Owain Meredith wrth ddyfarnu'r wobr i Tir Na Nog yn y categori ar gyfer cynhyrchiadau Cymraeg.
 |
Fe wnaethon ni gynnal parti, cael pawb yn feddw ac yna rhedeg y camerâu!
|
Yn y ffilm ceir hanes dynes ifanc yn ymdopi â bywyd cefn gwlad ac mae datrys atgof arallfydol o'i phlentyndod yn ei helpu i ddod o hyd i'w gwreiddiau.
Sarah Louise, myfyrwraig astudiaethau creadigol, oedd awdur y sgript a Zac Holbert, sy'n fyfyriwr astudiaethau cyfathrebu, oedd y cyfarwyddwr.
Cafodd y gwaith ffilmio ei wneud yng nghartref mam Sarah yng Nghaernarfon a 10 o aelodau teulu a ffrindiau oedd y cast.
"Fe wnaethon ni gynnal parti, cael pawb yn feddw ac yna rhedeg y camerâu!" meddai Zac Holbert. "Fe wnaeth popeth weithio'n wych - roedd yr awyrgylch ar y sgrîn yn arbennig."
Talent
Sefydlodd y ddau gwmni Ethos Films er mwyn dangos i'r diwydiant eu bod "o ddifri" wrth geisio am gyllid a chefnogaeth, ac roedd Tir Na Nog eisoes wedi ennill yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Annibynnol Myfyrwyr ym mis Mai y llynedd.
Gwenno Haf o Goleg y Drndod oedd enillydd Gwobr y Gynulleidfa
|
Rwan mae Zac yn edrych ymlaen at gynhyrchu ffilmiau byrion ffuglen wyddonol - un ym mis Mehefin gyda chefnogaeth Ffilmiau'r Nant ac un sy'n gydgynhyrchiad gyda chwmni bach arall o Fangor.
Mae hefyd yn datblygu math newydd o fideo i gydfynd â chan fydd yn rhan o gasgliad nesa Sarah Louise, a wnaeth rhyddhau ei chryno ddisg gynta o ganeuon y llynedd.
"Tydw i ddim am ddweud llawer ond mi fydd yna fwy o stori y tu ôl i'r fideo," meddai Zac.
"Bydd yna lot o wisgoedd, gwaith camera amrywiol a llawer o effeithiau arbennig. Rydw i am gyfuno dawn gerddorol Sarah gyda fy awydd i i greu ffilm."
Nod gŵl Ffresh, gafodd ei chynnal am y pedwerydd tro, yw arddangos, dathlu ac ysbrydoli gwaith talent newydd sydd ar hyn o bryd yn astudio yng Nghymru.
Cafodd gwobrau eu dyfarnu mewn wyth categori arall gan gynnwys:
Ffuglen
Moments of Silence gan Nick Davies, Oskari Korenius a Rupert Rand o Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru, Prifysgol Cymru, Casnewydd
Ffeithiol
Life Line gan Sharon Harris o Goleg y Drindod, Caerfyrddin
Animeiddio
Astronauts gan Matthew Walker o Ysgol Ffilm Ryngwladol, Prifysgol Cymru, Casnewydd
Teledu
Can I Buy You a Drink gan Dennis Donoghue a Tara Coody o Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru, Prifysgol Cymru, Casnewydd
Gwobr y Gynulleidfa
Cappucino Heroin and Grunge gan Gwenno Haf o Goleg y Drindod
Gorau'r ŵyl
Yr Ymwelydd gan Twm Lewis, Prifysgol Aberystwyth