Dyma fydd ymddangosiad ola' criw Porc Peis Bach
|
Mae'r ymateb i un o'r dramâu fydd i'w gweld yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eryri wedi bod yn "wych".
Cafodd pob tocyn ar gyfer perfformiadau gyda'r nos o'r ddrama "O! Diar Drama Lwyfan Porc Peis Bach" eu gwerthu allan wythnos cyn yr Eisteddfod.
Dyma addasiad llwyfan gan greawdwr Porc Peis a Porc Peis Bach, Wynford Ellis Owen.
Mae'r sioe, sydd yn Theatr Gwynedd o nos Sadwrn tan Awst 6, wedi ei chyfarwyddo gan Valmai Jones a'i chynllunio gan Emyr Morris-Jones.
Dyma'r tro olaf y bydd Porc Peis yn cael ei gyflwyno gyda'r cast yn addo peidio siomi!
Theatr Bara Caws a Chwmni Cambrensis sy'n gyfrifol am y sioe.
Mae Wynford Ellis Owen wedi ysgrifennu ac actio mewn chwe chyfres am hynt a helynt trigolion pentref Llanllewyn yng nghefn gwlad Cymru'r 1950au a'r 1960au.
Sioe ychwanegol
"Rwy' wrth fy modd yn clywed bod cymaint yn mwynhau'r gyfres a bod nifer o'n atgofion personol i fel plentyn yn gallu apelio at gynifer o bobl yng Nghymru," meddai Wynford Ellis Owen.
Dywedodd bod yr ymateb i ymddangosiad olaf y cast gyda'i gilydd wedi bod yn "wych" gyda phob tocyn wedi gwerthu allan ar gyfer sioeau y nos.
"Rydyn ni wedi ychwanegu un sioe arall i brynhawn ddydd Iau ac mae rhai tocynnau ar ôl ar hyn o bryd," meddai llefarydd ar ran Theatr Gwynedd.
"Dwi'n meddwl taw atyniad y ddrama yw ei bod ar y teledu ac yn boblogaidd iawn gyda phlant ac mae'r rhan fwyaf o docynnau wedi cael eu gwerthu i blant."
Ar ôl ychydig o broblem gyda iâr golledig, mae'r sioe yn addo bod yn llwyddiant mawr, gan ddenu nifer o blant ac oedolion i'r theatr.
Yn y cyfamser bydd Wynford Ellis Owen yn trafod y gyfres a'r ddrama yn Theatr y Maes am 1430 ddydd Sul ac ar stondin S4C am 1300 ddydd Llun.