Awduron y llyfr Ian Edwards a Trystan Pritchard
|
Mae llond bws o gyn-weithwyr ffatri Friction Dynamics yn mynd i Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth i lansio llyfr am hanes y streic.
Ar y Lein sy'n adrodd yr hyn ddigwyddodd i weithwyr y cwmni yng Nghaernarfon fu ar linell biced am dair blynedd, yn rhan o frwydr gyfreithiol hir.
Stori yw hon am frawdgarwch, hunanbarch a chymuned yn codi i gefnogi'r gweithwyr gafodd eu diswyddo'n annheg.
 |
Fel rhywun sy'n dod o Gaernarfon, roedd y ffaith fy mod yn cael chwarae rhan, er ei bod yn rhan fach, mewn rhywbeth mor hanesyddol yn fraint
|
Ian Edwards a Trystan Pritchard, newyddiadurwyr papur lleol y Caernarfon & Denbigh Herald yn ystod y streic, yw'r awduron.
Dafydd Wigley sy'n ei lansio ar stondin TUC Cymru ar Faes yr Eisteddfod a bydd darlleniadau o'r llyfr gan yr actor Dewi Rhys.
Yn y gyfrol mae casgliad o atgofion a straeon aelodau undeb y Gweithwyr Trafnidiol a Chyffredinol am yr anobaith a'r iselder a'r digwyddiadau fydd yn dod â gwên i'r wyneb.
'Herio'r llywodraeth'
"Fel rhywun sy'n dod o Gaernarfon roedd y ffaith fy mod yn cael chwarae rhan, er ei bod yn rhan fach, mewn rhywbeth mor hanesyddol yn fraint," meddai Mr Edwards.
"Dyma un o'r pethau mwya i ddigwydd yn yr ardal ers Streic y Penrhyn ac mae'n ofnadwy ei fod yn dal i allu digwydd rwan.
Tom Jones, undeb y T&G, yn dangos y llyfr yn y lansiad
|
"Yn ogystal â herio perchennog y ffatri roedd y streic yn herio'r llywodraeth a'u rheolau nhw ynglŷn â streicio. Roedd yn bwysig yn hanes yr undebau.
"Fe ddaethon ni i adanbod pobl ac roedd llawer o ddiddordeb dynol yn yr hyn oedd yn digwydd.
"Roedd hwn yn rhywbeth yr oedd angen ei gofnodi."
Bu'r ddau awdur yn holi "prif gymeriadau'r" streic - Tom Jones o'r undeb, John Davies, cyn-weithiwr y defnyddiwyd ei achos yn y tribiwnlys yn erbyn Craig Smith, a Gerald Parry, un o'r cyn-weithwyr sy'n gynghorydd sir.
'Cofnod'
"Mae'r gyfrol yn gofnod o'u hatgofion, yn adrodd stori'r streic o'r dechrau hyd at ddiwedd y llinell biced," meddai Mr Edwards.
"Eu stori nhw (y streicwyr) yw hon a nhw oedd y bobl orau i'w hadrodd."
Roedd y cyn-weithwyr yn gefnogol iawn i'r awdurdon yn ystod y broses o ysgrifennu, meddai Mr Edwards.
Pan orffennwyd y drafft cyntaf, meddai, dangoswyd y gwaith i rai o'r cyn-weithwyr cyn iddo gael ei gyflwyno i'r wasg.
"Roedd y gefnogaeth yn wych ac unrhywbryd yr oedden ni angen siarad, roedden nhw wastad yn fodlon gwneud hynny.
"Er bod rhai o'r pynciau'n anodd iddyn nhw eu trafod, roedden nhw'n barod i wneud hynny."
Dywedodd Tom Jones, cyn-Drefnydd Rhanbarthol yr undeb, fod y gyfrol "yn deyrnged i 86 o weithwyr Friction Dynamics a gymrodd safiad dewr yn eu brwydr yn erbyn cyflogwr oedd eisiau dinistrio eu telerau ac amodau gwaith a'r undeb llafur y buon nhw'n rhan ohono.
Ysgoloriaeth
"Maen nhw'n unigolion uchel eu parch yn eu cymuned ac maen nhw'n falch o'u hundeb llafur.
"Ac maen nhw wedi dangos yn glir i bawb y gall criw bychan, penderfynol â disgyblaeth, trefn a pharch ymladd yn erbyn anghyfiawnder ac ennill.
Arwyn Roberts, a dynnodd y lluniau yn y llyfr, yn tynnu lluniau yn y lansiad hefyd
|
"Maen nhw'n esiampl i ni i gyd a bydd eu haberth yn fyw yn ein cymuned am flynyddoedd lawer."
Ni fydd awduron y gyfrol yn derbyn elw o werthiant y llyfr a bydd yr arian yn cael ei roi mewn cronfa i sefydlu ysgoloriaeth i roi cymorth mewn addysg i bobl ifanc o ardal Caernarfon.
Bydd y gyfrol yn cael ei chyfieithu i'r Saesneg a'r fersiwn yn cael ei lansio yng nghynhadledd yr undeb yn yr hydref.
Dydd Mawrth mae'r llyfr yn cael ei lansio yn stondin TUC Cymru ar Faes yr Eisteddfod am 1300.