BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2005, 15:29 GMT 16:29 UK
Er cof am Arglwydd Callaghan
Yr Arlglwydd a'r Arglwyddes Callaghan
Fe wnaeth James a Audrey Callaghan briodi yn 1938

Bu gwasanaeth diolchgarwch er cof am y cyn-brif weinidog, yr Arglwydd Callaghan, a'i wraig Audrey.

Bu farw'r ddau, oedd wedi bod yn briod am 67 mlynedd, o fewn 11 diwrnod i'w gilydd yn gynharach eleni.

Yn Abaty Westminster ddydd Iau, lle oedd y mesurau diogelwch yn llym, roedd arweinwyr gwleidyddol, gan gynnwys y prif weinidog Tony Blair.

Dywedodd Mr Blair fod yr Arglwydd Callaghan yn "ymgorfforiad o degwch, trugaredd ac undod".

Bu Arglwydd Callaghan yn brif weinidog rhwng 1976 a 1979 a bu farw ychydig cyn ei ben-blwydd 93 oed ym Mawrth eleni.

Y Parchedig Ddoctor Wesley Carr, Deon Westminster, arweiniodd y gwasanaeth i ddathlu bywyd y ddau.

Dywedodd Mr Blair fod y dyn oedd yn AS De Caerdydd rhwng 1945 a 1987 yn "un o gewri'r mudiad Llafur".

Fe oedd yr unig wleidydd i ddal y prif swyddi, Prif Weinidog, Canghellor, Ysgrifennydd Tramor a Chartref.




HEFYD:
Llyfr i gofio cyn brif weinidog
30 Maw 05 |  Newyddion
Teyrngedau i gyn brif weinidog
27 Maw 05 |  Newyddion
Yr Arglwydd Callaghan yn marw
26 Maw 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^