Creda Dolen Cymru y gall efeillio gwledydd tlawd a chyfoethog fod o fudd mawr
|
Roedd ymwelydd pwysig yn yr Eisteddfod yn Eryri ddydd Llun er mwyn dathlu pen-blwydd go arbennig.
Roedd Calvin Masenyetse, Uchel Gomisiynydd Lesotho, ar y Maes i ddathlu'r 20 mlynedd o gysylltiad rhwng Cymru a Lesotho.
Ar stondin Dolen Cymru, fe fu'r gŵr o Lesotho yn torri cacen arbennig i ddathlu'r cyswllt rhwng y ddwy wlad.
"Gan fod hwn yn 20 mlwyddiant Dolen Cymru, rydan ni'n falch iawn fod llywodraeth Lesotho wedi anfon cynrychiolydd i'r Eisteddfod eleni i'n helpu ni i ddathlu," meddai Dyfan Jones, cyfarwyddwr Dolen Cymru.
"Mae'r berthynas rhwng Cymru a Lesotho yn un agos iawn, ac mae'r ffaith fod yr Uchel Gomisiynydd am ddod i'r Eisteddfod i ddathlu y berthynas yma yn cadarnhau hyn."
Nod yr elusen ym mis Mawrth 1985 oedd creu cysylltiadau diwydiannol, economaidd a chymdeithasol gyda Lesotho.
Ers hynny mae'r cysylltiad wedi mynd o nerth i nerth.
Mae Lesotho yn wlad fynyddig gyda phoblogaeth o 2.2m sy'n ei gwneud yn debyg i Gymru o ran maint.
Ond mae amcangyfrif bod ryw 30% o oedolion Lesotho yn dioddef o HIV.
Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau i ddathlu'r pen-blwydd, gyda rhaglen gyfnewid rhwng athrawon Cymru a Lesotho.
Nod y cyfnewid yw tynnu sylw pobl Cymru at broblemau pobl mewn pentrefi tlawd a magu cyfeillgarwch rhwng diwylliannau gwahanol.
"Mae gallu rhannu profiadau yn ffordd o wneud ffrindiau newydd ac yn agoriad llygad," meddai Ann Evans, prifathrawes ysgol gynradd Cynwyl Elfed oedd yn rhan o'r cynllun cyfnewid.
"Ceisio cwmpasu ystod eang o brodiadau oedd y nod," meddai Dr Carl Clowes, un o'r rhai a sefydlodd y cysylltiad rhwng y ddwy wlad.
"Lesotho - gwlad heb ddim ond yn medru rhoi cymaint. Diolch amdani."