BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf, 2005, 09:43 GMT 10:43 UK
Urddo Cymrawd newydd
Alwyn Roberts yn cael ei urddo'n Gymraed gan R Alun Evans
Alwyn Roberts yn cael ei urddo'n Gymraed gan R Alun Evans

Dylai'r cynulliad feddwl o ddifri am faint y mae'n cyfrannu at y Brifwyl, meddai aelod amlwg o Gyngor yr Eisteddfod.

Cafodd Alwyn Roberts, aelod o Gyngor yr Eisteddfod ers 25 mlynedd, ei urddo'n Gymrawd yr Eisteddfod yn seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn y Pafiliwn nos Wener.

Urddir Mr Roberts o Dregarth, sydd wedi bod yn Llywydd y Llys am dair blynedd, am ei wasanaeth i'r Eisteddfod a dywedodd ei fod yn "falch a diolchgar".

Dywedodd mai'r unig ffordd o sicrhau dyfodol yr Eisteddfod oedd bod y cynulliad drwy Fwrdd yr Iaith yn ailystyried faint yr oedd yn cyfrannu'n ariannol.

Byddai newid natur yr Eisteddfod i'r pwynt o beidio bod yn rhan fawr o'n diwylliant yn golled ...
Alwyn Roberts

Doedd e ddim yn credu, meddai, y gallai'r Brifwyl ddod o hyd i fwy o incwm oddi wrth ymwelwyr 'r Maes a stondinwyr gan fod hyn wedi cyrraedd ei benllanw.

"Rydyn ni felly'n edrych ar gwtogi sylweddol neu bod y cynulliad trwy Fwrdd yr Iaith yn mynd yn l i'r lefelau ariannu cyn y toriadau," meddai.

"Dydw i ddim yn gweld sut y gall yr Eisteddfod dorri'n sylweddol ar y gwariant heb newid pethau'n sylweddol."

Dywedodd ei bod hi'n "gm gymhleth" gan fod rhaid dod o hyd i arbedion na fyddai'n cyfyngu ar incwm.

'Dim awgrymiadau'

"Mae pobl yn sn am leihau'r Maes ond byddai hynny'n golygu llai o stondinwyr a llai o incwm. Mae eraill yn sn am gwtogi'r Eisteddfod a fyddai eto'n lleihau incwm," meddai.

"Er gwaetha'r holl adroddiadau, does dim llawer o awgrymiadau ynddyn nhw ynglŷn sut i gynyddu arbedion heb golli incwm.

"Yn bersonol dwi'n meddwl mai'r unig ffordd realistig o sicrhau dyfodol yr Eisteddfod yw bod y cynulliad trwy Fwrdd yr Iaith yn edrych eto ar ei gyfraniad."

Dywedodd ei fod yn ffafrio cynllun lle byddai'r cynghorau'n cyfrannu'n flynyddol.

"Byddai hynny'n ysgafnhau'r baich ar awdurdodau lleol ac yn galluogi'r Eisteddfod i fod yn fwy sicr o ddarn o incwm o flwyddyn i flwyddyn," meddai.

"Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi bod yn trafod a byddai'n help petaen nhw'n dod i gytundeb."

'Colli pwrpas'

Os na fydd cefnogaeth gan y cynulliad a'r cynghorau, bydd y dyfodol, meddai, yn anodd.

"Bydd rhaid cwtogi mewn llefydd fydd yn brifo.

"Dydi'r Brifwyl ddim yn gallu cwtogi ar y staff. Ni ellir cwtogi ar y safle heb golli incwm ac felly byddai rhaid cwtogi ar waith artistig ac, wrth wneud hynny, rydyn ni'n colli pwrpas y peth.

"Byddai newid natur yr Eisteddfod i'r pwynt o beidio bod yn rhan fawr o'n diwylliant yn golled ac yn ddim lles i hunanhyder."

Mae Mr Roberts wedi chwarae rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Bu'n aelod o Gyngor Gwynedd ac o Awdurdod Iechyd Gwynedd ym mlynyddoedd cynnar y ddau gorff.

Cafodd ei benodi yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr y BBC yn 1979 ac yn Gadeirydd y Cyngor Darlledu yng Nghymru a bu'n un o aelodau cyntaf Bwrdd S4C.

Bu'n Gadeirydd Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru ac yn is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

A bu'n aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Wasanaethau Cyfreithiol ac aelod o'r Bwrdd Parl.

Caergrawnt

Ganed Mr Roberts yn Llanrwst yn 1933 ond symudodd y teulu i Arfon pan ddaeth ei dad yn weinidog capel Bethel, Pen-y-groes.

Yno y bu yn yr ysgol cyn mynd i brifysgolion Aberystwyth, Bangor a Chaergrawnt.

Yn 1960 cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru cyn symud i India yn brifathro coleg.

Yr un flwyddyn priododd Mair Williams o Rosllannerchrugog.

Yn 1967 dychwelodd i Gymru a phenodwyd ef yn ddarlithydd yn Abertawe.

Ymhen tair blynedd dychwelodd i Arfon a bu'n ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Efrydiau Allanol. Am 10 mlynedd bu'n Ddirprwy Brifathro Prifysgol Cymru Bangor cyn ymddeol yn 1997.

Cafodd ei ethol yn Gymrawd gan ei hen brifysgol yn Aberystwyth a rhoddwyd gradd Doethur yn y Cyfreithiau gan Brifysgol Cymru ar sail ei wasanaeth iddi.





ERYRI A'R CYFFINIAU 2005

O'R MAES

GAN CYMRU'R BYD

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

ORIELAU

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^