Bwriad y cynllun yw annog pobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd
|
Cafodd cynllun Bendigeidfran, cynllun newydd rhwng yr Urdd â mudiad ieuenctid Orgas yn Iwerddon, ei lansio ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau ddydd Sadwrn.
Bwriad y fenter yw pontio ieuenctid Cymru ac Iwerddon a datblygu cydweithio rhwng mudiadau ieuenctid y ddwy wlad.
Bydd y cynllun yn trefnu i 20 o Gymry ifanc ac 20 o Wyddelod ifanc ddod at ei gilydd ar gyrsiau gyda phum cwrs yn cael eu cynnal yn Iwerddon a phum cwrs yng Nghymru.
Fel rhan o'r lansiad yn stondin yr Urdd roedd gweithgareddau traddodiadol yn cael eu cynnal fel dawnsio, canu gwerin a Gwyddelig a chyflwyniad o offerynnau traddodiadol y ddwy wlad.
Roedd y canwr gwerin Alun Evans, neu Alun Tan Lan, yn chwarae'r gitâr, banjo, mandolin a'r bazouki.
"Mae enw'r prosiect yma yn arbennig o berthnasol gan mai cymeriad o'r Mabinogi, chwedl ieuenctid yw Bendigeidfran wnaeth ffurfio pont rhwng Cymru ac Iwerddon," meddai Nia Meleri Roberts, Uwch Swyddog Datblygu'r cynllun.
"Mae'r dywediad "A fo ben bid bont" hefyd yn berthnasol gan mai bwriad y cynllun yw hyfforddi ac annog pobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd ac i ymddiddori mewn gwaith ieuenctid a chymunedol."
'Annog dealltwriaeth'
Mae'r Urdd wedi derbyn grant o £18,3174 gan Interreg ar gyfer y prosiect a'r bwriad yw sefydlu perthynas tymor hir rhwng ieuenctid Cymru ac Iwerddon
"Ein gobaith yw y bydd cynllun Bendigeidfran yn addysgu ieuenctid Cymru ac Iwerddon am ddiwylliant a thraddodiadau'r ddwy wlad ac yn annog dealltwriaeth a pharch at ein ieithoedd a ieithoedd eraill," meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.
Aelodau o fudiad Orgas yn mwynhau'r lansiad ar y Maes
|
"Bydd yn gyfle gwych yn ogystal i bobl ifanc ymweld â gwyliau fel y Scleip na hOige yn Iwerddon ac Eisteddfod yr Urdd yng Nghymru."
Mae Orgas wedi penodi Simon Baily i weithio ar y cynllun yn Iwerddon lle mae gan y mudiad 1,300 o aelodau a 320 o arweinwyr yn hybu gweithgareddau Gwyddeleg.
Amcanion y mudiad yw hybu'r iaith a'r diwylliant Gwyddeleg a hybu datblygiad pobol ifanc.
Fel yr Urdd mae'n trefnu nifer o weithgareddau celfyddydol drwy'r flwyddyn, o gerddoriaeth i chwaraeon.