Deiseb: Mwyafrif helaeth yn 'bobl leol'
|
Mae mwy na 1,000 o bobl yn ardal Pwllheli wedi arwyddo deiseb o blaid ehangu marina.
Pleidleisiodd Cyngor Gwynedd yn erbyn argymhelliad i wario £5.6m ar ehangu'r marina fis yn ôl.
Roedd bwrdd y cyngor yn gynharach wedi cymeradwyo gosod 300 o angorfeydd ychwanegol.
Mae'r ddeiseb yn galw ar y cyngor i ail-ystyried ei benderfyniad.
Roedd Bwrdd Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddai ehangu'n hwb i economi Pen Llŷn ond roedd gwrthwynebiad chwyrn am fod ymgyrchwyr yn poeni am effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg.
'Syfrdanol'
Dywedodd y Cynghorydd Alan Williams, sy'n cyflwyno'r ddeiseb, fod y mwyafrif helaeth o enwau ar y ddeiseb yn bobl leol.
"Beth sydd yn syfrdanol yw hyn - bod 1,170 o'r 1,229 o'r enwau sydd gen i yn bobl leol, 95% o bobl sydd wedi arwyddo'r ddeiseb yma.
"Allwn ni ddim anwybyddu'r ffaith fod yna harbwr yn bodoli ym Mhwllheli."
Dywedodd Richard Parry Hughes, arweinydd Cyngor Sir Gwynedd, fod y mater wedi ei drafod yn eang a bod penderfyniad y cyngor yn derfynol.
Byddai gofyn i swyddogion y cyngor ailbaratoi adroddiadau ar y cynllun yn annerbyniol i dreth-dalwyr y sir, meddai.
Ar ôl penderfyniad y cyngor fis yn ôl, dywedodd Mr Williams:
"Dwi'n credu mai penderfyniad y cyngor (yn erbyn ehangu'r marina) oedd y neges fwya negyddol y gall unrhyw gyngor ei gyrru allan i unrhyw ddatblygwr sydd yn meddwl buddsoddi yng Ngwynedd.
Roedd rhai wedi cefnogi'r cynllun
|
"Fe fydd yn neges i fusnesau sydd yma i beidio ehangu, i beidio buddsoddi ac i beidio cyflogi mwy o weithwyr.
"... mae'n rhaid i mi sefyll yma a wynebu'r perchnogion a'r cyflogwyr a'r ieuenctid o fewn y coleg trydyddol sy'n astudio morwriaeth ...."
Ar y pryd dywedodd Iwan Edgar, un o'r cynghorwyr oedd yn erbyn yr ehangu,: "Dwi'n falch iawn fod hyn wedi cael ei basio a bod y Gymraeg yn ffactor gwirioneddol bwysig mewn cynllunio mewn ardaloedd lle mae'n dyngedfennol i'w chadw."