BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2005, 05:58 GMT 06:58 UK
Gam yn nes at statws byd
Pontcysyllte Aqueduct
Mae Pontcysyllte yn dathlu dau ganmlwyddiant eleni

Mae pont ddŵr enwog gam yn nes at statws 'rhyfeddod y byd'.

Bydd ymgynghorwyr yn asesu pwysigrwydd hanesyddol Pontcysyllte ger Llangollen.

Gobaith y cefnogwyr yw y bydd y bont ar restr safleoedd Treftadaeth y Byd Unesco, rhestr sy'n cynnwys y Taj Mahal, Wal China a thirlun diwydiannol Blaenafon yn Ne Cymru.

Agorwyd y bont yn 1805 ac mae dathliadau dau ganmlwyddiant wedi eu trefnu ar gyfer Tachwedd.

Fe'i hadeiladwyd gan y peiriannydd Thomas Telford.

Mae'r bont 1,000-troedfedd o hyd, sy'n cario camlas Llangollen dros ddyffryn Dyfrdwy, yn un un o atyniadau twristaidd mwya'r ardal, yn denu 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Bydd dau dm o ymgynghorwyr sy'n archwilio pwysigrwydd hanesyddol a system deithio'r bont yn cyhoeddi eu canlyniadau erbyn diwedd Medi.

Byddai derbyn statws treftadaeth y byd o fudd mawr i'r gymuned leol yn ogystal denu llawer o dwristiaid i'r ardal
Dr Dawn Roberts, Cyngor Wrecsam

Bydd eu casgliadau'n hollbwysig cyn penderfynu a fydd y bont ar restr Unesco 2007/2008.

Roedd Pontycysyllte yn ymgeisydd posib yn 1999.

Mae Cyngor Wrecsam yn paratoi cais pherchnogion y bont, Waterways Prydain, Cadw a'r Comisiwn Brenhinol ar gyfer Cynnal Adeiladau Hanesyddol (Cymru).

"Mae'r bont yn adnodd hanesyddol pwysig ar gyfer Wrecsam a byddai derbyn statws treftadaeth byd o fudd mawr i'r gymuned leol ac yn denu llawer o dwristiaid i'r ardal," meddai Dr Dawn Roberts, rheolwr datblygu economaidd Cyngor Wrecsam.

Dywedodd Dr David Gwyn, un o'r ymgynghorwyr sy'n mesur a phwyso: "Mae Pontcysyllte yn barod yn cael ei gwarchod fel adeilad hanesyddol ac rydyn ni ar ben ein digon oherwydd ymchwilio pwysigrwydd hanesyddol y lle.

"Fel Cymro, rydw i wrth fy modd yn rhan o'r prosiect."

Agorodd y bont ar Dachwedd 26 1805 wedi 10 mlynedd o adeiladu a'r llynedd gwariwyd 2m ar ail-wneud y safle enwog.

Y safle diwetha yng Nghymru i dderbyn statws Treftadaeth y Byd oedd Blaenafon a'i weithfeydd haearn yn 2000.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^