BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Chwefror 2006, 18:15 GMT
Iaith: Penodi o dan y lach
Mae Llywodraeth newydd Canada wedi penodi dyn nad yw'n siarad Ffrangeg yn ysgrifennydd Seneddol yr adran materion Ffrangeg.

Ted Menzies, Aelod Seneddol o Alberta a chyn-ffermwr ffacbys, sydd wedi ei benodi.

Bydd Mr Menzies, 53 oed, yn cydweithio â Josée Verner, gweinidog la francophonie ac ieithoedd swyddogol yn llywodraeth leiafrifol Stephen Harper.

Ond mae Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau wedi dweud fod y penderfyniad yn "druenus".

"Mae hwn yn anfaddeuol," meddai Denis Coderre, un o Aelodau Seneddol Montreal. "Y neges yw bod siaradwyr Ffrangeg yn ddinasyddion eilradd."

Ond dywedodd gohebydd Montreal papur dyddiol Ffrainc mai dim ond tri y cant tu allan i Quebec oedd yn arfer Ffrangeg.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^