BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Gorffennaf 2005, 11:53 GMT 12:53 UK
Ffrae mast ffôn ar do ysbyty
Ysbyty Bronglais Aberystwyth
Mae'r ysbyty wedi cael ei dalu am osod y trosglwyddydd

Mae penderfyniad i roi trosglwyddydd ffonau symudol ar do Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth o dan y lach.

Dywedodd Elin Jones, AC Ceredigion, ei bod yn amau pa mor ddiogel oedd y mastiau.

Ond dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Ceredigion a Chanolbarth Cymru fod lefelau ymbelydredd yn dilyn canllawiau Prydeinig.

Ychwanegodd yr ymddiriedolaeth iddyn nhw gael eu talu am osod y trosglwyddydd ond nad oedden nhw'n fodlon dweud beth oedd y swm.

Mae protestiadau wedi bod ym Mhrydain yn erbyn gosod mastiau ffonau symudol ger cartrefi a phobl yn poeni y gallen nhw effeithio ar eu hiechyd.

Mae pobl yn dal i amau pa mor ddiogel yw'r mastiau
AC Elin Jones, AC Ceredigion

Dywedodd perchnogion y trosglwyddydd, Hutchison 3G, eu bod yn cydnabod fod pobl yn poeni ond, er iddyn nhw ymgynghori â'r gymuned, doedd neb wedi gwrthwynebu'r cynllun.

Mae'n aneglur pryd y bydd y trosglwyddydd yn cael ei osod.

Dywedodd Ms Jones y byddai dim ond 50m i ffwrdd o rai cartrefi.

"Ry'n ni gyd yn gwybod ein bod ni'n gorfod troi ein ffonau symudol i ffwrdd wrth fynd i mewn i ysbytai achos gallen nhw effeithio ar offer meddygol.

"Ond er hyn, mae'r ymddiriedolaeth yn gosod mast pwerus ar do yr ysbyty," meddai.

"Mae pobol yn dal i amau pa mor ddiogel yw'r mastiau. Rwy'n credu y dylen ni fod yn ofalus a pheidio â'u rhoi mewn man lle gall yr effaith fod yn wael."

Dywedodd iddi dderbyn cwynion oddi wrth drigolion yr ardal.

Elin Jones
Dwedodd Elin Jones y byddai'r trosglwyddydd 50m o rai cartrefi

'Y dewis gorau'

Dywedodd yr ymddiriedolaeth iddyn nhw gytuno i osod y trosglwyddydd wedi sicrwydd nad oedd unrhyw wrthwynebiad lleol.

Ychwanegodd llefarydd iddyn nhw ofyn am sicrwydd na fyddai'r mast yn ymyrryd ag offer meddygol.

Dywedodd Hutchison 3G eu bod wedi trafod â Chyngor Ceredigion y llynedd.

"Cytunwyd â'r cyngor taw Ysbyty Bronglais fyddai'r dewis gorau yn amgylcheddol," meddai'r llefarydd Verity Stanford.

"Mae mewn lle delfrydol i ddarparu gwasanaeth ffonau symudol i ddwyrain Aberystwyth."

Roedd y cynllun yn dilyn polisi cynllunio'r llywodraeth.

"Yn y cyfamser, hoffen ni dawelu meddyliau pobl nad oes unrhyw effeithiau iechyd niweidiol yr ydyn ni'n gwybod amdanyn nhw mewn mannau sy'n dilyn y canllawiau."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^