BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2006, 13:54 GMT
Cyngerdd Dewi ar Ynys Mn
Brigyn
Fe fydd Brigyn yn perfformio yn y cyngerdd

Bydd cyngerdd arbennig am y tro cyntaf yn cael ei gynnal yn Ynys Mn i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Y cyngor yw'r unig awdurdod yng Nghymru sy'n cynnig diwrnod o wyliau swyddogol i staff ar Fawrth 1.

Bydd cyngerdd mawreddog ym Mhafiliwn Cae Sioe Mona yn "dathlu diwylliant a threftadaeth Gymreig" ac mae disgwyl i 2,000 o bobl fod yno.

Ymhlith yr artistiaid mae Bryn Fn, Elin Fflur, Brigyn a'r tenor Rhys Meirion.

Bydd y noson yn cael ei chyflwyno gan sr y sgrn fach, Arthur Picton a George Huws o C'Mon Midffld.

'Gosod esiampl'

"Mae Cyngor Sir Ynys Mn wedi bod yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ers 10 mlynedd," meddai arweinydd y cyngor y Cynghorydd W J Williams.

"Fel awdurdod, rydym yn credu ei bod hi'n bwysig dathlu dydd ein nawdd sant, yn enwedig gan fod Mn yn cael ei chydnabod fel Mam Cymru.

Arwydd Mn Mam Cymru
Mae Ynys Mn yn cael ei chydnabod fel Mam Cymru

"Hoffwn i feddwl y bydden ni'n gosod esiampl y gallai awdurdodau a chyrff eraill ei dilyn."

Gobaith trefnydd y cyngerdd, y prif swyddog datblygu Aviva Pearson, yw bod y digwyddiad yn datblygu.

"Rydym ni am i'r dathliadau fod y gorau yng Nghymru, gan ddenu'r artistiaid gorau i berfformio flwyddyn ar l blwyddyn.

"Ac rydym ni'n gobeithio y bydd cyngerdd o'r safon yma yn denu pobl leol a phobl o rannau eraill o Gymru a thu draw i ddathlu ysbryd Cymru gyda ni ..."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^