BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Chwefror 2006, 12:05 GMT
Jones i 'fod yn arweinydd'
Dafydd Iwan a Ieuan Wyn Jones
Fe fydd dyfodol arweinyddiaeth y blaid yn cael ei drafod yn y gynhadledd

Gallai arweinyddiaeth Plaid Cymru newid mewn cynhadledd wanwyn ddiwedd y mis.

Mae cynnig i wneud Ieuan Wyn Jones, arweinydd y blaid yn y cynulliad, yn arweinydd swyddogol.

Ar hyn o bryd mae arweinydd y blaid yn y cynulliad yn rhannu'r arweinyddiaeth â llywydd y blaid Dafydd Iwan.

Os yw'r newid yn digwydd, byddai'r llywydd Dafydd Iwan yn symud i fod yn arweinydd adain wirfoddol y blaid.

Mae Mr Iwan wedi croesawu'r newid bron tair blynedd ar ôl i'r swydd gael ei rhannu.

Dywedodd cadeirydd Plaid Cymru, John Dixon, y byddai'r gwelliannau ar yr agenda erbyn y gynhadledd yng Nghaerfyrddin ar Chwefror 25.

"Mae gan Blaid Cymru dîm arweinyddol cryf a bydd yn dal i elwa ar hynny.

'Yn gliriach'

"Er hynny, y gred oedd bod angen i rôl yr arweinwyr gael ei wneud yn gliriach a dyna pam bod y newidiadau yma yn cael eu cynnig."

Ers i'r blaid fethu ag ennill tir yn etholiad cyffredinol 2005 mae newid arweinyddiaeth y blaid wedi cael ei thrafod.

Rôl y llywydd fydd arwain adain wirfoddol y blaid
John Dixon, Cadeirydd Plaid Cymru

Ym Medi 2005 dywedodd Dafydd Wigley, cyn-lywydd y blaid, fod Plaid Cymry yn wynebu dyfodol "ofnadwy" heb newid.

Dywedodd fod system bresennol arweinyddiaeth y blaid wedi drysu'r cyhoedd a'r cyfryngau.

Mae cyn-lywydd y blaid Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud fod angen iddi "dyfu i fyny ac addasu" cyn dod yn blaid lywodraethol.

Fe fydd y cynllun diweddara yn cael ei gyflwyno i aelodau yn y gynhadledd ac os yw'n cael ei dderbyn, bydd arweinydd y blaid yn y cynulliad yn dod yn arweinydd swyddogol y blaid.

"Rôl y llywydd fydd arwain adain wirfoddol y blaid a bydd yr is-lywydd yn ddirprwy iddo," meddai Mr Dixon.

Ar hyn o bryd mae Mr Iwan, cynghorydd sir yng Ngwynedd, yn llywydd y blaid a Mr Jones yn arweinydd y 12 aelod yn y cynulliad ac Elfyn Llwyd, AS Meirionydd Nant Conwy, yn arweinydd yr aelodau yn San Steffan.

Dywedodd Mr Iwan fod yr "arweinyddiaeth yn golygu cyfrifoldeb ar y cyd".

"Mae hyn yn golygu fod Plaid Cymru wedi ei gwneud hi'n gliriach mai gwaith tîm ydi'r allwedd.

"Ond mae egluro'r cyfrifoldeb o fewn y tîm yn allweddol o bwysig."

Dywedodd fod y cynulliad "yn allweddol bwysig" i'r blaid a'i bod yn addas bod yr arweinydd gwleidyddol, y "darpar brif weinidog".




HEFYD:
Iwan: Am weld 'geni' plaid newydd
17 Medi 05 |  Newyddion
Unwch neu golli, medd arweinydd
16 Medi 05 |  Newyddion
Wigley: Rhybudd i'w blaid
15 Medi 05 |  Newyddion
Plaid: 'Y ffordd ymlaen'?
16 Mai 05 |  Newyddion
'Dim angen newid yr arweinyddiaeth'
11 Mai 05 |  Newyddion
Plaid Cymru: Rhybudd cadeirydd
09 Mai 05 |  Newyddion
Ieuan Wyn Jones wrth y llyw
15 Medi 03 |  Newyddion
Ethol Dafydd Iwan yn llywydd
15 Medi 03 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^