BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Chwefror 2006, 08:47 GMT
Bryn Terfel i ganu yn Llangollen
Bryn Terfel and Katherine Jenkins
Bryn Terfel a Katherine Jenkins sy'n agor a chau'r eisteddfod eleni

Mae perfformiadau gan Bryn Terfel a Katherine Jenkins a ffilmiau Charlie Chaplin ymysg uchafbwyntiau'r 60ed Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Bydd y canwr o Wynedd yn ymddangos yn yr achlysur am y tro cyntaf ers degawd tra bydd Jenkins yn canu yn yr eisteddfod am y tro cyntaf.

Hefyd yn rhan o'r ŵyl mae pedwar o ffilmiau mud clasurol Charlie Chaplin yn cael eu dangos i gyfeiliant sgr newydd gan y cyfansoddwr o American Carl Davis.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni rhwng Gorffennaf 4-9.

Cyhoeddwyd manylion Eisteddfod Llangollen 2006 ddydd Mercher.

Cr o Siapan yn Llangollen
Mae'r ŵyl yn denu perfformwyr o bedwar ban byd

Bydd yr ŵyl, sy'n dathlu 60 mlynedd eleni, yn cynnwys ymddangosiad gan Gerddorfa Hall, a berfformiodd yn yr eisteddfod gyntaf yn 1947.

Bryn Terfel fydd yn agor yr ŵyl gyda'r ymddangosiad cyntaf ar lwyfan Llangollen ers 1995.

Y mezzo-soprano Katherine Jenkins a'r Gerddorfa Symffoni Genedlaethol fydd yn cau'r ŵyl ar Orffennaf 9.

Mae miloedd o gantorion a dawnswyr yn teithio o bedwar ban byd i berfformio ac i gystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, ac mae'r ŵyl yn denu miloedd o bobl i'r cyngherddau nosweithiol.

Cafodd yr ŵyl ei henwebu ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel yn 2004 ac mae Luciano Pavarotti, Nigel Kennedy, Shirley Bassey, James Galway, Lesley Garrett a Michael Ball wedi perfformio yno dros y blynyddoedd.

Yn l y trefnwyr, mae dros 500,000 o gystadleuwyr o dramor wedi perfformio yn yr eisteddfod mewn 60 mlynedd, gan ddenu o gwmpas tair miliwn o ymwelwyr.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^