Daeth Alex Hamilton yn gadeirydd y clwb yn 2004
|
Mae perchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam, Alex Hamilton, wedi bod yn ceisio adennill rhyddfraint y Cae Ras mewn gwrandawiad yn y Llys Apêl yn Llundain.
Yn Hydref trosglwyddodd barnwr yr Uchel Lys yn Birmingham y tir i weinyddwyr y clwb wedi iddo ddyfarnu na ddylai Mr Hamilton fod wedi rhoi'r rhyddfraint i un o'i gwmnïau.
Penderfynodd y barnwr y dylai rhyddfraint y clwb gael ei dal dan ymddiried ond yn Rhagfyr enillodd Mr Hamilton yr hawl i apêl.
Gallai Wrecsam golli ei le yn y Gynghrair Bêl-droed os nad yw'r clwb yn rhydd rhag dwylo'r gweinyddwyr erbyn Mehefin. Penderfynodd y barnwyr ddydd Mawrth i ohirio eu dyfarniad.
Fe ddaeth Mr Hamilton, datblygwr eiddo, yn gadeirydd y clwb yn 2004 yn lle ei gyn-bartner busnes, Mark Guterman.
Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y clwb wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr gyda dyledion o dros £4m ac ym Mai 2005 cafodd ei drosglwyddo i Adran Dau wedi i'r Gynghrair Bêl-droed eu cosbi o 10 pwynt.
Dechreuodd y gweinyddwyr achos Uchel Lys i geisio cymryd y Cae Ras oddi wrth Mr Hamilton.
Clywodd y gwrandawiad llys yn Birmingham fod ei gwmni, CrucialMove, wedi prynu'r Cae Ras gyda chynlluniau i ddatblygu'r safle ar gyfer tai neu ddefnydd masnachol.
Ond penderfynodd y barnwr Alistair Norris QC na ddylai CrucialMove fod wedi prynu rhyddfraint y stadiwm.