Mae'r ysgol feithrin yn Y Gaiman yn boblogaidd iawn
|
Fe fydd ocsiwn yn cael ei chynnal yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri ddechrau Awst i gasglu arian i godi adeilad ar gyfer ysgol feithrin Gymraeg yn Nhrelew, Patagonia.
Mae angen £30,000 er mwyn sicrhau adeilad, a fyddai hefyd yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, ac mae tua £10,000 wedi ei godi eisoes.
Y cyn AS ac AC Dafydd Wigley sydd wedi trefnu'r ocsiwn ac fe welodd yr angen am adeilad pan ymwelodd â Phatagonia y llynedd.
 |
Heb gartref parhaol does dim sicrwydd y bydd yr ysgol yn parhau
|
Ymysg yr eitemau fydd yn cael eu gwerthu yn y Pagoda ar faes yr Eisteddfod dydd Gwener Awst 5 mae llun dyfrlliw o fryniau Patagonia sydd wedi ei greu gan Syr Kyffin Williams.
Yr arwerthwr fydd y cyflwynydd teledu Dai Jones sydd wedi ymweld â Phatagonia a chreu rhaglenni am y Wladfa.
Fe aeth Mr Wigley i'r Wladfa yn ystod yr hydref y llynedd gan fod ei wraig, y delynores Elinor Bennett, yn beirniadu yn yr eisteddfod yno.
"Roedd yna sôn am yr adeilad dan sylw a bod angen £30,000 i dalu am hynny," meddai.
Ffilm
"Mae £10,000 wedi ei godi a dwi'n gobeithio y bydd yr arwerthiant yn mynd rhan sylweddol o'r ffordd i lenwi'r bwlch.
"Heb gartref parhaol does dim sicrwydd y bydd yr ysgol yn parhau a'r gobaith yw gallu perswadio'r llywodraeth yno i ddarparu athrawon Cymraeg," meddai Mr Wigley."
 |
Rydyn ni'n croesawu'r ocsiwn, mae'n golygu y byddwn ni'n gallu prynu adeilad a thir
|
Ymysg yr eitemau eraill ar gael mae ffilm a wnaed gan Mr Wigley pan ymwelodd â'r Wladfa ar flwyddyn ei chanmlwyddiant yn 1965.
Mae Mr Wigley wedi troi hwn yn fideo ac wedi rhoi sylwebaeth arno ac mae'n gobeithio y bydd y Llyfrgell Genedlaethol neu'r Amgueddfa'n dangos diddordeb.
Hefyd mae cerddi sy'n berthnasol i Batagonia gan Mererid Hopwood, Dafydd Iwan a Myrddin ap Dafydd wedi eu hysgrifennu yn llawysgrif y beirdd.
Mae Catrin Morris de Junyent yn byw yn Y Wladfa ac mae ei merch Elen yn mynd i'r ysgol feithrin a Maite i ddechrau ar Awst 1.
Ar hyn o bryd mae'r dosbarth yn cyfarfod yn festri'r capel bum diwrnod yr wythnos ddwy awr a hanner y dydd.
"Yr hyn yr ydym ni am ei wneud yw sefydlu ysgol feithrin swyddogol," meddai.
"Mae criw ohonom yn ceisio prynu tŷ ac mae pensaer sy'n gwneud y cynlluniau i ni ac mae criw arall yn ceisio cyflwyno'r prosiect addysgol i'r dalaith.
"Rydyn ni'n croesawu'r ocsiwn, mae'n golygu y byddwn ni'n gallu prynu adeilad a thir ac mae hynny'n bwysig er mwyn ennyn diddordeb y llywodraeth.
"Os ydyn ni'n dweud wrthyn nhw ein bod wedi prynu tir fe fyddan nhw'n cydweithio o hynny mlaen."
'Hollbwysig'
Dywedodd fod cael adeilad ar gyfer yr ysgol feithrin yn hollbwysig.
"Rydyn ni wedi dibynnu ar garedigrwydd Cymdeithas Dewi Sant a Chapel y Tabernacl ond er mwyn cynnal addysg feithrin gyhoeddus mae'n rhaid ni gael adeilad ein hunain," meddai.
"Mae addysg ddwyieithog (Cymraeg a Sbaeneg) mor newydd i'r llywodraeth yma fel bod rhaid i rywbeth fod ganddon ni i'w gynnig ar y bwrdd a'n bod yn mynd hanner ffordd."
Byddai'r ysgol feithrin yn cynnig lle i 36 o blant yn y bore a'r prynhawn.
Byddai Llyfrgell yr Orsedd a dosbarthiadau plant yma hefyd a gweithgareddau cymdeithasol fel asado, cwis a nosweithiau cawl a chân.
"Mae sôn hefyd ein bod fel Cylch Cymraeg Trelew yn mynd i hybu pob math o gyswllt gyda Chymru - gyda phobl ifanc a chwaraeon yn arbennig," meddai Ms de Junyent.
Bydd yr ocsiwn yn cael ei gynnal am 1430 ddydd Gwener Awst 5 yn y Pagoda ar Faes yr Eisteddfod.