Mae dwy stribed o arian mewn ffurf cylch fel clawdd llechen
|
Llyfrau a llechi yw thema Coron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, sy'n cael ei chyflwyno gan Wasg Dwyfor, Penygroes, a hynny er mwyn portreadu ardal y Brifwyl a'r cysylltiad gyda'r wasg.
Y dylunydd Ann Catrin Evans o Gaernarfon sydd wedi ei llunio ac mae wedi ei gwneud o arian a llechen.
Mae'r pigau ar y Goron fel cloriau llyfrau ar agor ac yna mae dau stribed o arian yn cysylltu'r cyfan ar ffurf cylch fel clawdd llechen neu grawia sy'n nodweddiadol o ardal yr Eisteddfod.
 |
Mi wnes i fwynhau ei rhoi at ei gilydd ond roeddwn i ofn difetha'r cyfan ar y munud olaf
|
Yn y gorffennol mae Ms Evans wedi llunio dwy goron ar gyfer eisteddfodau lleol ond dyma'r tro cyntaf iddi lunio coron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a dywedodd fod hynny wedi bod yn uchelgais ganddi erioed.
"Dwi'n gweithio gyda haearn fel arfer ac felly roeddwn i'n awyddus i weithio gydag arian a llechen," meddai.
"Mae'r ddau ddeunydd yn gwrthgyferbynnu'n hyfryd gydag un yn dywyll a garw a'r llall yn sgleiniog a golau ac mae hynny'n gyfuniad perffaith."
Arbrofi
Fe wnaeth Ms Evans sawl model cyn creu'r Goron derfynol a bu'n arbrofi gyda darnau bach.
Nid oedd am wneud unrhyw waith sodro ac mae'r holl ddarnau wedi eu cysylltu'n fecanyddol ac wedi eu llithro a'u gwasgu i'w lle.
 |
Mae'r ddau ddeunydd yn gwrthgyferbynnu'n hyfryd gydag un yn dywyll a garw a'r llall yn sgleiniog a golau
|
"Roedd hyn yn golygu llawer iawn o arbrofi a rhan fwyaf o'r gwaith oedd yr holl baratoi a meddwl ymlaen llaw sut y byddai'r holl beth yn gweithio," meddai.
"Ar ôl tipyn o chwysu a thynnu gwallt fy mhen dwi'n hapus iawn ac mi wnes i fwynhau ei rhoi at ei gilydd ond roeddwn i ofn difetha'r cyfan ar y munud olaf.
"Roeddwn i'n hapus â'r gwaith ar ôl gorffen gan fod y Goron yn dal y golau yn ofnadwy ac mae hynny yn rhywbeth nad oeddwn i wedi ei ragweld."
Mae Ms Evans yn awr yn edrych ymlaen at y seremoni ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ddydd Llun Awst 1.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i weld y Goron ar ben rhywun ac fe fyddwn i'n siomedig iawn os na fydd teilyngdod," meddai.
Mae'r Goron yn cael ei chyflwyno am gasgliad o gerddi rhydd ar thema heb fod dros 300 llinell a'r beirniaid yw Derec Llwyd Morgan, Ifor ap Glyn a Jason Walford Davies.
Yn ogystal â Choron yr Eisteddfod bydd y bardd buddugol hefyd yn derbyn rhodd ariannol o £750.